Y Parc Cenedlaethol yn lansio tri modiwl dysgu Newydd
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi lansio tri modiwl newydd o’i gwrs llysgenhadon ar-lein newydd.
Mae’r cwrs wedi ei gynllunio i roi darparwyr twristiaeth gyda mewnwelediad i dirwedd ogoneddus Bannau Brycheiniog. Mae’r cwrs yn rhad ac am ddim ac ar hyn o bryd yn cynnwys Cyflwyniad i Fannau Brycheiniog, Synnwyr o’r Lle a Phobl o’r Gorffennol. Mae tri modiwl newydd bellach wedi ei rhyddhau: Awyr Dywyll, Geoparc Fforest fawr a Chyflwyniad i Fioamrywiaeth, Ecosystemau ac Ecoleg.
Mae’r cyrsiau wedi eu cynllunio i ddyfnhau gwybodaeth pobl o’r dirwedd ac i ysgogi pobl i warchod a gwella’r Parc. Ei amcan i’w rhoi’r wybodaeth i ddarparwyr twristiaeth i siarad yn hyderus am Fannau Brycheiniog a’r arfau i ofalu yn gynaliadwy am y Parc Cenedlaethol.
Dwedodd Carol Williams, Swyddog Twristiaeth y Parc Cenedlaethol, “Rydym wrth ein boddau i lansio’r modiwlau ychwanegol hyn. Bydd y modiwlau diweddaraf yn rhoi gwell dealltwriaeth o ddaeareg, sut i leihau llygredd golau ac am fyd natur ar garreg y drws. Hyd yn hyn mae 104 o bobl wedi cwblhau’r tri modiwl cyntaf, gan ennill gwobr llysgenhadon efydd. Bydd cwblhau’r tri modiwl ychwanegol yn galluogi pobl i ennill y wobr arian. Nid dim ond darparwyr twristiaeth sy’n gallu cwblhau’r cwrs ar-lein. Gall unrhyw un gyda diddordeb ym Mannau Brycheiniog gymryd rhan.”
Mae’r cwrs llysgenhadon yn rhad ac am ddim i’w gwblhau. Yn dilyn cwblhau’r cwis byr, cynigir tystysgrif i gyfranogwyr. Bydd cwblhau tri modiwl yn ennill gwobr efydd, chwe modiwl y wobr arian a bydd cwblhau de gyn ennill y wobr aur.
Dwedodd Rebecca Aslett, Rheolwr Marchnata Call of the Wild, bod y cwrs llysgenhadon yn help mawr. Dwedodd, “Byddwn yn argymell Cwrs Llysgenhadon Bannau Brycheiniog. Pan gychwynnais weithio i Call of the Wild, gan gynnig rhaglenni arweinyddiaeth profiad a rhaglenni datblygiad ym Mannau Brycheiniog, gwelais ei fod yn gychwyn da. Roedd bod a gwybodaeth dda o’r Parc Cenedlaethol yn ei gwneud yn llawer haws i siarad ac ysgrifennu am yr ardal leol gyda’n cleientiaid. Roedd yn hawdd cwblhau’r cwrs ar-lein ac roedd y cynnwys yn wych. Byddwn i wir yn argymell pob busnes yn y Parc Cenedlaethol ei gwblhau.”
Mae pedwar uned arall yn cael eu datblygu a byddant yn cael eu rhyddhau yn y misoedd nesaf. I gofrestru ar y cwrs, ewch at: https://www.ambassador.wales/
DIWEDD