Wythnos Hinsawdd Cymru

Darn barn gan Catherine Mealing-Jones, Prif weithredwr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae’n fraint ac anrhydedd arwain awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru atgoffir fi mai trwy arweinyddiaeth leol  y gwnawn ni harnesu yr angerdd mae fy nghydweithwyr yn ei ddangos wrth wynebu’r heriau a cheisio datrys sut i daclo her fwyaf ein hoes.

Mae’r mater yn un brys. Bydd cynnydd o ddim ond 1.5-gradd mewn tymheredd yn peryglu systemau naturiol y ddaear a bygwth y modd maent yn cynnal bywyd dynoliaeth. Ond mae’r hyn sydd wedi ei addo hyd yn hyn gan wledydd y byd yn gweld y tymheredd yn codi 2.7 gradd erbyn diwedd y ganrif. Mae’r hinsawdd yn torri lawr ac mae’n digwydd yn gyflymach nag oedd gwyddonwyr yn ei ddarogan -mae’r mater yn un brys.

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar flaen y gad yr argyfwng hinsawdd. Dod o hyd i ddatrysiad i’r broblem fyd eang yw ein blaenoriaeth bennaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Barciau Cenedlaethol Cymru fod yn “ esiampl wrth ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur”.

Mae’r argyfwng hinsawdd yn ganolog yn ein cynllun rheoli. Nid dim ond geiriau mewn polisi yw e, dylai fod yn amlwg yn ein gweithredoedd. Mae ein hadeiladu yn cael eu rhedeg gan ynni solar ac mae’n gerbydau yn rhai trydan. Rydym yn ymateb ar newid hinsawdd yn gymdeithasol trwy weithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i ddatrysiadau i anghenion ein cymunedau megi ynni a thrafnidiaeth. Rydym yn ymateb i adfer natur trwy adfer mawndiroedd gwerthfawr a thyfu mwy o goed.

Mae’n gylch gwaith gan Lywodraeth Cymru yn golygu y dylem ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb i weithredu i leihau’r cynnydd mewn tymheredd yn y byd. Rhaid i ni gyrraedd net sero yn y Parc Cenedlaethol erbyn 2035. 

Yn amlwg, allwn ni ddim taclo newid hinsawdd ar ein pen ein hun. Ym Mannau Brycheiniog rydym yn ffodus bod nifer o sefydliadau fel Coleg y Mynyddoedd Du, Ceiniogi’r Coed ac Ein Bwyd yn cydweithio. Ond bydd yn cymryd ymdrech gan bob un ohonom i gyrraedd net sero ac i baratoi at y byd cynhesach sydd o’n blaenau.

Yn yr wythnos yn dilyn COP27 mae’n amlycach nag erioed bod dyfodol dynol ryw a’r byd naturiol fel rydym yn ei adnabod yn y fantol. Bydd ein gweithredoedd dros y blynyddoedd nesaf yn dyngedfennol.  

Mae hanner dynoliaeth yn barod mewn lle peryg, gan wynebu llifogydd, sychder, stormydd eithafol a thanau gwyllt. Mae’r llifogydd ym Mhacistan wedi effeithio ar 33 miliwn o bobl ac wedi gadael traean y wlad dan ddŵr. Mae’r argyfwng hinsawdd yn digwydd nawr-  gan ddinistrio bywydau, tarfu ar ddiogelwch bwyd, gwneud anghydfodau yn waeth oherwydd adnoddau prin a dadleoli poblogaeth.

Hyd yn oed yma ym Mannau Brycheiniog, eleni roedd y tymheredd mor boeth roedd rhaid cyflwyno rhybudd cyhoeddus. Cafodd effaith ar isadeiledd, cynhyrchu bwyd a’r amgylchedd naturiol sydd dan gymaint o bwysau.   

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gorgyffwrdd naw awdurdod lleol. Er mwyn gweithredu ar yr hinsawdd yma, rydym yn gweithio’n agos gyda’r awdurdodau hyn, a rhannau eraill o’r sector gyhoeddus, y trydydd sector, y sector breifat, y cyhoedd a Llywodraeth Cymru. Mae pob lle yn rhan o’r darlun mawr.

Fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru, fe gynhaliom drafodaeth panel led led Cymru i drafod pwysigrwydd gweithio gyda’n gilydd trwy fenter fyd eang o’r enw Y Ras i Sero.

Mae’r glymblaid enfawr hon , sy’n cael ei gefnogi gan y Cenhedloedd Unedig wedi dod ynghyd i godi’r uchelgais hinsawdd ar draws y byd. Mae’n cael gwledydd, dinasoedd, rhanbarthau, cynghorau, busnesau a phrifysgolion at ei gilydd i leihau allyriadau, newid economeg tanwydd ffosil a dangos bod taclo newid hinsawdd yn beth da i bobl ac i’r blaned.

Mae Cymru fel cenedl yn rhan o’r Ras i Sero. Mae awdurdodau lleol yn cydlynu’r gweithredu lleol ac mae gwneud y peth iawn yw’r peth hawdd i’w wneud yn ein cymdeithas yn allweddol i wireddu ein hymrwymiad i leihau allyriadau carbon. Mae Wythnos Hinsawdd Cymru wedi bod yn gyfle i adlewyrchu ar ein hamgylchedd gyda’n gilydd, ar yr adeg iawn. Mae’r ysfa ynom i gwrdd â’r her. Gobeithio’n fawr y gwnewch ymuno gyda ni.