Gŵyl Awyr Dywyll Bannau Brycheiniog yn dychwelyd mis Medi

O ddydd Gwener 23 hyd at ddydd Sul 25 Medi bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnal ei ail Ŵyl Awyr Dywyll.

Bydd yr ŵyl yn cynnwys digwyddiadau am ddim a rhai mae’n rhaid talu amdanyn nhw, gan gynnwys sioeau planetariwm, gwersi seryddiaeth, teithiau cerdded bywyd gwyllt ac adrodd storiâu. Mae’r ŵyl yn anelu at ysbrydoli ac at addysgu pobl am ein hawyr y nos hardd.

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol dynodedig, yn cael ei dathlu am ei llygredd golau isel a golygfeydd gogoneddus o’r sêr. Mae’r llygredd golau lleiaf posibl nid yn unig yn hanfodol ar gyfer syllu ar y sêr, ond ar fywyd gwyllt ac am ein llesiant ni ein hunain. Mae’r Parc Cenedlaethol yn ceisio lleihau gofalu artiffisial yn y nos ble bynnag bo’n bosibl.

Meddai Carol Williams, Swyddog Twristiaeth Cynaliadwy yn y Parc Cenedlaethol, “Rydym wrth ein bod yn cynnal yr ŵyl eto eleni. Y llynedd, oherwydd cyfyngiadau covid, roedd y cyfan o’n digwyddiadau ar lein. Eleni, rydym wrth ein bodd fod gennym gymaint o weithgareddau bendigedig yn cael eu darparu mewn person. Rwy’n wirioneddol edrych ymlaen at groesawu pob i’r ŵyl.’

Mae’r rhaglen lawn isod ac mae tocynnau ar gael i’w harchebu trwy Eventbrite: https://www.eventbrite.com/cc/gwyl-awyr-dywyll-2022-dark-sky-festival-2022-896149

Rhaglen Ŵyl Awyr Dywyll 2022

Dydd Gwener 23 Medi

9:30 – 10:15       Taith i’r Sêr gyda Nick Busby (digwyddiad rhithiol i ysgolion)

18:00 – 21:00    Padlfyrddio o Dan y Sêr gyda Outdoor Explore Cymru, Prom Aberhonddu

19:00 – 20:00    Taith Gerdded Ystlumod gyda Just Mammals, Loc Brynich

Dydd Sadwrn 24 Medi

13:00-14:00, 14:00-15:00, 15:00-16:00 and 16:00-17:00  Sioeau Planetariwm gyda Chymdeithas Seryddol Wysg, Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus

13:00 – 13:45    Gweithgareddau Plant gyda Thîm Addysg y Parc Cenedlaethol, Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus

10:00 – 16:00    Syllu Solar gyda Chymdeithas Seryddol Caerdydd, Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus

14:00 – 14:45    Popeth am wyfynod a sut i wneud magl gwyfynod gyda Norman Lowe, Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus

18:00 – 21:00    Padlfyrddio o Dan y Sêr gyda Outdoor Explore Cymru, Loc Brynich

18:30 – 20:00    Adrodd Storïau Serennog gyda Daniel Morden, Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus

19:00 – 21:00     Arsylwi gyda Thelesgop ac ysbienddrych gyda Chymdeithas Seryddol Wysg, Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus

19:00 – 20:00    Taith Gerdded Ystlumod gyda Just Mammals, Prom Aberhonddu

Dydd Sul 25 Medi

Sioeau Planetariwm gyda Chymdeithas Seryddol Wysg, Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus

13:00 – 16:00    Syllu Solar gyda Chymdeithas Seryddol Caerdydd, Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus

13:00 – 13:45    Mythau a Chwedlau yn yr Awyr, adrodd stori gyda Carl Gough, Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus

14:30 – 15:15    Mythau a Chwedlau yn yr Awyr, adrodd stori gyda Carl Gough, Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus

18:00 – 20:00    Padlfyrddio o Dan y Sêr gyda Outdoor Explore Cymru, Loc Brynich

18:00 – 21:00     Arsylwi gyda Thelesgop ac ysbienddrych gyda Chymdeithas Seryddol Wysg, Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus

DIWEDD