Cadeirydd yn talu ternged i’r Frenhines

Mae Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi talu teyrnged i’w Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth II yn dilyn y cyhoeddiad am ei marwolaeth.

“Rydym wedi ein tristau’n fawr gan farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II ac estynnwn ein cydymdeimlad i’r Teulu Brenhinol am eu colled fawr,” meddai’r Canon Aled Edwards. “Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ddiolchgar am ei saith deg mlynedd o ymroddiad a gwasanaeth i’r genedl. Ar y cyd â nifer o gymunedau eraill yng Nghymru a ledled y byd, rydym yn estyn ein cydymdeimlad twymgalon i’r Teulu Brenhinol ar yr adeg anodd hon. Roedd gan bobl y Bannau Brycheiniog ynghyd â phobl ar draws y DU a thramor parch enfawr tuag at y Frenhines, a bydd colled fawr ar ei hôl.  Nawr, gyda thristwch mawr, byddwn yn ymuno â gweddill y DU i alaru diwedd ei bywyd a’i theyrnasiad rhyfeddol.”