Iolo Williams yn ysbrydoli dysgwyr Cymraeg am natur

Nos Lun, Gorffennaf 4, arweiniodd y naturiaethwr a’r darlledwr, Iolo Williams daith gerdded i ddysgwyr Cymraeg sy’n caru byd natur o Ganolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Trefwnyd y digwyddiad gan Menter Iaith, sy’n hyrwyddo gweithgareddau Cymraeg a defnyddio’r Gymraeg yn y gymuned. Ymunodd 35 o ddysgwyr ar y daith brydferth gyda golygfeydd godidog o fynyddoedd y Bannau. Roedd y cerddwyr wrth ei bodd i weld dau ysgyfarnog yn chwarae, ehedydd yn canu yn yr awyr a gylfinir brin.

Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais o weld miliwn o bobl yn gallu siarad Cymraeg erbyn 2050 a’r Gymraeg yn ffynnu. Gyda dros 582,000 o siaradwyr Cymraeg a degau o filoedd yn dysgu, mae’r iaith Gymraeg yn cynnig mantais addysgol, ddiwylliannol a gwaith i bob dysgwr.

Dwedodd Iolo Williams, “Fe gerddom o amgylch Traeth Mawr a Thraeth Bach gyda’r dysgwyr. Noson fythgofiadwy! Roedd y grŵp yn bleser eu tywys ac fe welsom amrywiaeth o fywyd gwyllt. Roedd staff y Parc Cenedlaethol yn wych!”

Nododd Jodie Bond, Rheolwr Materion Cyhoeddus y Parc Cenedlaethol,  “Rydym wedi ymrwymo i weld yr iaith Gymraeg yn ffynnu yn y Parc Cenedlaethol ac yn gobeithio gallu gweithio eto gyda’r Fenter Iaith yn y dyfodol. Roedd yn hyfryd croesawu cymaint o bobl i’r ganolfan ymwelwyr a’u gweld yn mwynhau’r amgylchedd trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Am fwy o wybodaeth am waith y Fenter Iaith, ewch at: https://mentrauiaith.cymru/

DIWEDD