Tri adnodd newydd i nodi Diwrnod Cenedlaethol Geoamrywiaeth
I nodi’r Diwrnod Geoamrywiaeth Cenedlaethol cyntaf (Hydref 6), mae Geoparc Fforest Fawr yn cynnal gweithgareddau ysblennydd.
Mae Geoparc UNESCO Byd eang Fforest Fawr yn cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar ochr orllewinol y Parc. Heddiw, bydd Lab Dysgu Geoparc dros dro yn agor am y dydd gyda gwirfoddolwyr yn ei staffio. Hefyd bydd bydd y Parc yn rhyddhau dau adnodd digidol; ffilm a gynhyrchwyd gan UNESCO a thaith gerdded synau a gynlluniwyd i gludo’r gwrandäwr i’r dirwedd.
Mae’r Lab Dysgu yn annog ymwelwyr i archwilio hanes a daeareg yr ardal. Wedi ei leoli ym Mharc Gwledig Craig y Nos, mae o fewn tirwedd greigiog sy’n llawn geoamrywiaeth, mae’r Lab yn cynnwys arddangosfeydd gwybodaeth, a fideo cylchog o’r dirwedd a theithiau cerdded sy’n eich tywys a elwir yn geolwybrau.
Mae UNESCO yn pwysleisio Fforest Fawr fel trysor trwy ryddhau ffilm fer a ffilmiwyd yn ne’r Geoparc. Bydd gwylwyr yn profi rhyfeddod y Parc o gartref trwy wylio’r ffilm.
Mae’r Geoparc yn rhoi gwerth mawr i hyrwyddo’r amgylchedd yn eang, ac yn ychwanegol i’r ffilm, mae dwy daith sain yn cael ei rhyddhau’r heddiw. Mae’r darlledwyr ac awduron Jon Gower a Horatio Clare yn arwain gwrandawyr ar daith sain o Gwm Henllys, gan ymchwilio ei hanes diwydiannol a phrydferthwch naturiol. Gellir ffrydio’r teithiau sain a’r fideo ar breconbeacons.org/fforest-fawr-geopark.
Dwedodd Jon Gower, “Roedd yn bleser mawr archwilio’r ardal arbennig hon o Fannau Brycheiniog a chael y cyfle i’w rannu gyda gwrandawyr. Roeddem yn lwcus i gael ein tywys gan arbenigwyr lleol; roedd yn bleser cofnodi ei hadlewyrchiadau a’u gwybodaeth am y Cwm.”
Nododd Alan Bowring, Swyddog Geoparc, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, “Mae Geoamrywiaeth ym mhobman o’n cwmpas. Mae’n cynnwys popeth ym myd natur sydd ddim yn fyw; yn greigiau a ffosiliau, i bridd a’r dirwedd ysblennydd. Mae’n hyfryd gallu dathlu ein tirwedd unigryw heddiw yn ein Lab Dysgu, ac i rannu yn rhyngwladol lansio’r ddau brofiad rhithiol newydd rhain.”
Mae Diwrnod Geoamrywiaeth Rhyngwladol yn ddathliad byd eang, gan ddod a phobl at ei gilydd ar Hydref y 6ed bob blwyddyn, i hyrwyddo agweddau amrywiol geoamrywiaeth. Am fwy o wybodaeth am BarcGeo Fforest Fawr, ewch at geoparcyfforestfawr.org.uk.
DIWEDD