Galwa Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am ddiwedd i’r weithred anghyfreithlon o yrru-oddi-ar-y-ffordd ymysg pryder ei fod yn dadwneud llawer o’r gwaith gwerthfawr mae’r parc yn ei wneud yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Mae’r alwad yn cyd-fynd ag ymgyrch genedlaethol gan yr heddlu, wrth i bedwar o’r heddluoedd uno er mwyn mynd i’r afael â’r broblem, mewn cydymgyrch o’r enw Taurus Cymru.
Mae Bannau Brycheiniog yn gartref i ystod eang o gorsydd mawn, sy’n elfen hanfodol o’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Gall mawndiroedd ddal tair gwaith mwy o garbon na choed, ond maent dan fygythiad o ganlyniad i’r nifer o gerbydau sy’n gyrru-oddi-ar-y-ffordd mewn modd anghyfreithlon.
Mae teiars cerbydau’n rhwygo’n hawdd drwy wyneb meddal y corsydd gan ddatgeli’r mawn moel oddi tanno. Gall mawn gwlyb, sydd wedi ei orchuddio â llystyfiant megis mwsogl, amsugno carbon o’r atmosffer. Fodd bynnag, pan fod mawn wedi ei ddifrodi ac yn y golwg, mae’n dechrau rhyddhau carbon yn ôl i’r aer. Mae’n hanfodol ein bod yn cynnal mawndiroedd a’u cadw rhag niwed er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Bydd y Parc Cenedlaethol yn gwario dros filiwn o bunnoedd yn ystod y tair blynedd nesaf ar waith adfer mawn, ac mae’n siŵr mai cynyddu’n sylweddol wnaiff y ffigwr hynny o ganlyniad i’r pwysigrwydd mae Llywodraeth Cymru wedi ei osod ar warchod mawndiroedd. Dywed Sam Ridge, Swyddog Mawrndiroedd y Parc Cenedlaethol, “Bob blwyddyn rydym yn treulio miloedd o oriau’n ceisio adfer mawndiroedd sydd wedi erydu. Nid yn unig ydy mawn yn un o arfau gorau’r Deyrnas Unedig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ond mae hefyd yn gynefin hanfodol i fywyd gwyllt. Mae ein gwirfoddolwyr yn gweithio’n ddiflino er mwyn adfer mawn sydd wedi ei ddifrodi; mae gweld niwed sydd wedi ei achosi gan y weithred anghyfreithlon yrru-oddi-ar-y-ffordd yn dorcalonnus.”
Mae gyrru cerbyd modur ar dir comin heb ganiatad y tirfeiddianwr yn dramgwydd troseddol ac ychydig iawn o lwybrau cyfreithlon sydd ar gyfer gyrru-odd-ar-y-ffordd tu fewn i ffiniau’r parc. Gall pobl sy’n defnyddio cerbydau oddi-ar-y-ffordd yn anghyfreithlon dderbyn rhybudd, erlyniad neu gall eu cerbyd gael ei gipio oddi wrthynt ac weithiau ei ddinistrio.
Dwedodd Rob Taylor, Cadeirydd y grŵp Cynefin a Chydlynydd Troseddau Gwledig Heddlu Cymru, “Rydym wedi cynllunio sawl ymgyrch dros y misoedd nesaf er mwyn wynebu’r mater a hoffem weithio gyda’r holl grwpiau hynny sydd â diddordeb yn ein helpu ni i ddatrys y problemau hyn a’n galluogi ni bob un i symud ymlaen fel bod ein hardaloedd cefn gwlad ni yng Nghymru’n parhau i fod yn fannau prydferth sy’n cael eu hamddiffyn er lles ein cynefinoedd a’n bywyd gwyllt.”
Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag adfer mawndiroedd ym Mannau Brycheiniog ewch i bannaubrycheiniog.org/amgylchedd/prosiect-mawndiroedd-ar-ucheldir. I glywed y diweddaraf ynghylch Ymgyrch Taurus Cymru ewch i twitter.com/CymruTaurus
DIWEDD