Tystiolaeth fod y bele wedi dychwelyd i Fannau Brycheiniog

Prosiect y Parc Cenedlaethol yn cyflawni canlyniadau ar gyfer rhywogaethau sydd wedi’u peryglu

Yn 2018, lansiodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog brosiect i ddarparu safleoedd cysgodi addas ar gyfer monitro’r bele. Eleni, a hynny yn sgil cymorth gan wirfoddolwyr sydd ar gwrs Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae’r prosiect yn profi i fod yn llwyddiannus.

Mae’r bele yn rhywogaeth sydd mewn perygl yn Lloegr ac yng Nghymru ac mae prosiectau tebyg i’r un hwn yn hanfodol er mwyn diogelu dyfodol y rhywogaeth. Gosodwyd trapiau camera, ledled y Parc er mwyn monitro llwyddiant y prosiect. Mewn cyfnod o rai misoedd yn unig, datgelodd y camerâu’r hyn y bu tîm y prosiect yn aros amdano; tystiolaeth o bresenoldeb y bele ym Mannau Brycheiniog.

Mae’r bele’n famal â chorff hir, tenau ac yn perthyn i’r un teulu â’r minc, y wenci a’r carlwm. Mae ganddynt ffwr brown â rhywfaint o hufen ar y frest. Mae’r bele’n ymgartrefu mewn coetiroedd ac maent yr un maint â chath ddomestig, fechan.

Cafodd pedwar myfyriwr o’r Drindod Dewi Sant eu recriwtio i gydweithio â Jason Rees, Swyddog Cadwraeth Cynorthwyol Bannau Brycheiniog. Mae Jason yn frwd ynghylch diogelu dyfodol y rhywogaeth.  Dywedodd, “Mae’r prosiect wedi cael ei gynnal yng ngorllewin y Parc Cenedlaethol. Mae’n dirwedd wledig iawn, heb fawr o boblogaeth ac roeddem yn ei chael hi’n anodd recriwtio gwirfoddolwyr i gynorthwyo â’r gwaith. Diolch i’r bartneriaeth hon â’r Drindod Dewi Sant, rydym wedi llwyddo i recriwtio pedwar gwirfoddolwr gwych i’n cynorthwyo. Cafwyd cymorth i osod trapiau camera a blychau cysgodi.”

Dywedodd un o’r gwirfoddolwyr, Lucy Fairbrother: “Rwyf wedi mwynhau gwirfoddoli ar gyfer y prosiect hwn. Mae’n wych gweld y deunydd a recordiwyd gan y trapiau camera. Mae’r bele yn ei hôl! Rwy’n falch fy mod wedi cynorthwyo i gyflawni hynny.”

Bydd y tîm yn parhau i fonitro presenoldeb y creaduriaid prin hyn ond maent yn obeithiol ar gyfer y dyfodol.

Gwnaethpwyd y prosiect yn bosibl yn sgil cyllid gan Gronfa Ddatblygu Cynaliadwyedd y Parciau Cenedlaethol a hynny mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Gwent a myfyrwyr y Drindod Dewi Sant.  Am ragor o wybodaeth ynghylch gwaith Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ewch i: www.beacons-npa.gov.uk http://www.beacons-npa.gov.uk

DIWEDD