Twnnel Poly Grdd Gymunedol Craig-y-nos

Mae gan Griw Craig-y-nos, sef Cyfeillion Parc Gwledig Craig-y-nos, dwnnel poly newydd ar gyfer eu gardd gymunedol. Sefydlwyd yr ardd, sydd wedi ei lleoli ar dir y parc, yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda’r nod o gynnal lle i grwpiau o bobl ac unigolion allu dysgu sut i dyfu llysiau, ffrwythau a blodau.

Rydym yn gwybod bod garddio’n gwneud lles i’n hiechyd meddwl ac i’n hiechyd corfforol hefyd felly mae Criw Craig-y-nos yn agor yr ardd i bawb – grwpiau ac unigolion – nid yn unig i’r sawl sydd wedi hen arfer a garddio ond hefyd i’r sawl sydd ag awydd dysgu mewn awyrgylch cefnogol. Derbyniodd gwirfoddolwyr y Criw, hyfforddiant mewn garddwriaeth gan y Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol am eu bod eisiau sicrhau bod eu sgiliau a’u cymwysterau’n gyfredol cyn eu pasio ymlaen at eraill.

Mae’r ardd wedi ei gosod ar lethr ddwyreiniol o dan y teras yn y Parc Gweledig, a’r lleoliad yn caniatáu golygfeydd ysblennydd ar draws y pwll pysgod a lan at Graig Rhiwarth a Fan Gyhyrich, un o gopaon eiconig y Parc Cenedlaethol. Mae gwlâu ar gyfer planhigion wedi cael eu gosod yn y parc ac mae llwybr hawdd ei gyrraedd yn arwain atynt o’r pwll, gyda’r twnnel poly newydd yn darparu lle i dyfu a chenhedlu planhigion yn ystod misoedd oer y flwyddyn. Dewiswyd planhigion er budd bywyd gwyllt gan sicrhau diogon o gyfleoedd i’r pryfaid bach allu peillio. Planwyd hefyd cymar-blanhigion er mwyn lleihau plâu. Mae Criw Craig-y-nos wedi bod yn helpu i gasglu hadau o diroedd y Parc Cenedlaethol a bydd y twnnel poly’n darparu lle hanfodol i dyfu’r genhedlaeth nesaf o goed.

‘Mae’r twnnel poly’n rhoi gymaint mwy o gyfleoedd i ni o ran beth allwn dyfu yn yr ardd a phryd gallwn eu tyfu’ meddai Jackie Thomas, Cadeirydd Criw Craig-y-nos. ‘Gallwn dyfu’n gynnar yn y flwyddyn er mwyn ennill y blaen ar y tymor.  Mae’r twnnel hefyd yn rhoi lle i ni weithio dan do pan fo’r tywydd yn wlyb, er dyw’r glaw ddim yn stopio’r rhan fwyaf ohonom rhag gweithio’.

Dyfarnwyd grant o £4,760 i Griw Craig-y-nos gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Mae’r gronfa’n cefnogi prosiectau sy’n gwella amodau byw yn y cymunedau drwy warchod a chyfoethogi’r amgylchfyd lleol a thrwy helpu pobl i fyw bywydau llawn ac iach, nawr ac yn y dyfodol. Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.bannaubrycheiniog.org/cymunedau/cynaliadwyedd-2/y-gronfa-datblygu-cynaliadwy/

Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Chriw Craig-y-nos www.facebook.com/criwcraggy

 

DIWEDD