Gyda chefnogaeth prosiect Collabor8 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn ogystal â nifer o fusnesau lleol, mae Grŵp Twristaeth y Gelli wedi trefnu Gŵyl Gerdded Gyntaf y Gelli, yn y gobaith o ddenu nifer o gerddwyr i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Cynhelir yr ŵyl o ddydd Gwener 7 Hydref i ddydd Sul 9 Hydref, a bydd y digwyddiad newydd hwn yn cynnig dros 30 o ddigwyddiadau yn ystod y tri diwrnod, gan gynnwys 23 taith gerdded dywysedig, 3 taith redeg gyda’r Hay Hotfooters, a 4 digwyddiad gyda’r nos. Ond bydd yr ŵyl newydd yn cynnwys mwy na dim ond cerdded; bydd yn rhoi cyfle i bobl ddarganfod a dysgu rhywbeth ar hyd y daith. Bydd yr ŵyl yn cynnwys gweithgareddau diddorol megis cerdded Nordig, darllen a dehongli mapiau, tynnu lluniau o’r tirlun, ymweld â ffermydd, pensaernïaeth y dref, archaeoleg, daeareg a hanes yr ardal.
Wrth gwrs, mae croeso i chi fynd am dro hefyd! Mae’r rhaglen gerdded yn amrywio o deithiau byr hamddenol i daith 15 milltir yn y Mynyddoedd Du. Yn wir, mae’r ŵyl yn cynnig rhywbeth i bawb. Arweinir pob taith gerdded gan gerddwyr profiadol o Gymdeithas Parc Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu Hay Walkers.
Bydd y darlledwr poblogaidd a’r cerddwr brwd, Trevor Fishlock, a’r archwiliwr pegynol enwog, Felicity Ashton, yn siarad am eu profiadau yn lansiad swyddogol yr ŵyl, a gynhelir nos Wener 7 Hydref yng Ngwesty’r Swan am 7:30pm. Yn ogystal, bydd Alan Ward yn sôn am ei anturiaethau yn cerdded yn Nepal a Tanzania ar nos Sadwrn 8 Hydref, gyda bwffe a ceilidh i ddilyn yn y Globe.
Dywedodd Nick Stewart, Swyddog Collabor8 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Rydym yn falch iawn fod Collabor8 yn cefnogi Grŵp Twristiaeth y Gelli i sefydlu’r ŵyl gerdded hon, a fydd yn ychwanegu elfen gyffrous arall i’r rheiny sy’n hoff o ymweld â’r dref. Mae yna amrywiaeth eang o deithiau cerdded ar gael, a dyma’r cyfle perffaith i unrhyw un nad sydd wedi ymweld â’r Gelli o’r blaen ddod yma i weld beth sydd gan yr ardal i’w gynnig.”
Dywedodd Alison O’Grady o Grŵp Twristiaeth y Gelli: “Rydym wedi gweithio’n galed i gynllunio digwyddiad cyffrous sy’n cynnwys ystod o deithiau cerdded diddorol y gobeithiwn bydd yn ysbrydoli ymwelwyr i ddod i’r Gelli a’r ardal leol i ddarganfod y cyfleoedd cerdded sydd ar gael. Caiff Y Gelli ei hadnabod fel Tref y Llyfrau a Llenyddiaeth, ac rydym yn gobeithio bydd yr ŵyl gerdded yn codi proffil Y Gelli fel cyrchfan ardderchog i gerddwyr hefyd.”
Rhaid codi tâl bychan i dalu am gostau’r digwyddiadau, ac mae mwy o wybodaeth ar gael o www.haywalkingfestival.co.uk neu trwy anfon neges e-bost at info@haywalkingfestival.co.uk. Gallwch gadw eich lle ar y teithiau cerdded neu yn y digwyddiadau o 1 Awst.
Am fwy o wybodaeth am Collabor8, cysylltwch â Nick Stewart, Swyddog Collabor8 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ar 01874 620490 neu nick.stewart@breconbeacons.org.