Syllu ar yr haul yn dychwelyd i Fannau Brycheiniog

Bydd yr haul, ffaglau solar ac efallai’r lleuad hyd yn oed yn cael eu datgelu mewn digwyddiad rhad ac am ddim, pan fydd Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, ger Libanus, yn cael ei thrawsnewid dros dro yn arsyllfa golau ddydd ar ddydd Sadwrn 30 Gorffennaf, rhwng 10:30am a 4:00pm.

Wedi llwyddiant ysgubol y digwyddiadau syllu ar y sêr, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chymdeithas Seryddol Caerdydd yn gwybod bod yna alw mawr am ddigwyddiadau o’r fath, ac felly maen nhw wedi dod ynghyd i roi cyfle prin i’r cyhoedd syllu ar yr haul yn ystod y dydd trwy ddefnyddio telesgopau arbennig i sicrhau diogelwch y rheiny fydd yn cymryd rhan.

Dywedodd Richard Levy, Rheolwr Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol: “Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle anhygoel i weld yr haul a’r awyr, i ddefnyddio telesgopau ac i ddysgu am offer syllu ar y sêr a seryddiaeth o dan arweiniad Cymdeithas Seryddol Caerdydd. Byddant yno i ateb cwestiynau ynghylch yr haul ac i esbonio seryddiaeth mewn manylder, yn ogystal â beth i edrych amdano yn yr awyr.

“Mae Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn lleoliad perffaith ar gyfer cynnal digwyddiadau syllu ar y sêr a’r haul, diolch i gyfuniad delfrydol o fod yn lleoliad hygyrch a hawdd i’w gyrraedd, nad yw’n cael ei effeithio gan lygredd golau. Yn ogystal, rydym ni’n paratoi ar gyfer ein digwyddiad flynyddol o syllu ar gawod feteor Perseid ar 12 Awst, a fydd yn cynnig golygfeydd gwych o gawod feteor Perseid, a fydd yn goleuo’r ffurfafen ar y noson honno.”

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau syllu ar yr haul a’r sêr neu gawod feteor Perseid yn y Parc Cenedlaethol, cysylltwch â Chanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ar 01874 623 366 neu visitor.centre@breconbeacons.org.