Mae wardeiniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r Frigâd Dân wedi bod yn brwydro’r tân trychinebus rhwng Trap, Brynaman a Llandeilo am dridiau. Mae wedi difrodi cors fawnog 2,000 erw ac un o safleoedd pwysicaf o ddiddordeb gwyddonol arbennig y Parc Cenedlaethol yn ddifrifol. Ddoe, datblygodd y sefyllfa yn ddramatig wrth i’r gwynt newid cyfeiriad yn sydyn, ac fe alwyd am gymorth milwrol gyda’r nos i frwydro’r fflamau.
Er nad yw’r tân wedi’i ymatal yn llwyr, mae’r sefyllfa wedi gwella ac mae’r wardeniaid yn obeithiol y bydd y tân o dan reolaeth lwyr yn hwyrach heno, gyda chymorth parhaus y frigâd dân a’r fyddin.
Dywedodd Judith Harvey, Warden Ardal Orllewinol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, nad oedd y tân yn bygwth unrhyw eiddo, ond mai dyma’r tân gwaethaf ar weundir iddi hi ei weld mewn dros ddeg mlynedd ar hugain.
“Mae’r tân yn parhau i losgi, ac yn logistaidd mae wedi bod yn anodd iawn ei frwydro. Yn ffodus, rydym wedi cael cefnogaeth cwmni dŵr Brecon Carreg, sydd wedi cynnig cyflenwad diderfyn o ddŵr i ni. Er hynny, yr unig ffordd ar hyn o bryd o frwydro yn erbyn y tân, sy’n ymestyn am filltir, yw ar feiciau cwad a thanceri dŵr sy’n drafferthus a phroblemaidd. Yn ogystal, rydym wedi cael cymorth gan y fyddin, yn benodol Ysgol Troedfilwyr Aberhonddu, sydd wedi bod o gymorth mawr o ran brwydro’r tân yn ardaloedd dwfn y gors fawnog sydd yn dal i losgi. I’r wardeiniaid hynny sydd wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd yn adfywio’r safle i’w gyflwr gwreiddiol fel un o gynefinoedd blaenoriaethol y Parc Cenedlaethol, mae’r sefyllfa gyfredol yn dorcalonnus,” esboniodd Judith Harvey.
Dywedodd Paul Sinnadurai, Ecolegydd ac Uwch Ymgynghorydd Polisi Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Y safle hwn oedd un o’n cynefinoedd rhostir grugos pwysicaf ac mae’r tân hwn wedi cael effaith hollol ddinistriol. Mae’r tân wedi llosgi mor ddwys fel ei fod wedi llosgi i lawr i’r gors fawnog sy’n gyfoethog o ran carbon, ac felly nid oes modd mesur yr effeithiau hirdymor – mae’n bosibl y bydd hi’n cymryd blynyddoedd i’r safle adfywio. Pan ddifrodir cors fawnog fel hyn, mae ei gallu i ddal dŵr yn gostwng, mae’n rhyddhau carbon ac yn cynyddu’r dŵr arwynebol sy’n llifo i ffwrdd, yn cynyddu’r risg o lifogydd ac yn achosi problemau erydu yn y dyfodol.
“Rydym wedi cydweithio gyda’r gwasanaethau tân a Chyngor Cefn Gwlad Cymru ers blynyddoedd i losgi tir o dan reolaeth yn yr ardal hon er mwyn adfywio’r grug a gwella’r amgylchiadau ar gyfer pori a bioamrywiaeth. Bellach, mae’r holl waith caled yna wedi’i ddinistrio. Nid yw’n eglur eto os dechreuwyd y tân ar bwrpas, ond os mai dyna’r achos, bydd yn cael ei ystyried yn drosedd bywyd gwyllt. Mae adar sy’n nythu ar y llawr, megis ehedyddion, corhedyddion y waun, grugieir coch, bodau llwydlas a’r cudyll bach wedi cael eu lladd ac mae’r tân wedi dinistrio cynefinoedd am filltiroedd.”
Ddoe, wrth i’r tân wahanu a llosgi mewn nifer o gyfeiriadau gwahanol, roedd hi’n bosibl gweld mwg trwchus mor bell i ffwrdd â Llandeilo. Ynghyd â’r tân ar Dir Comin Mynydd Isaf, mae yna danau eraill yn parhau i losgi ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Bydd wardeniaid y Parc Cenedlaethol yn parhau i roi rhybuddion tân yn ystod yr wythnosau nesaf, ac maen nhw’n annog pobl i fod yn wyliadwrus yn ystod y cyfnod o dywydd twym a sych.
Dywedodd Chris Davies, Dirprwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Mae criwiau o Rydaman ac o Bontardawe yn brwydro’r tân, ac mae’r ymladdwyr tân yn gweithio gydag awdurdodau’r Parc Cenedlaethol i geisio lleihau’r difrod i fywyd gwyllt ac i’r seilwaith. Nid ydym wedi sefydlu beth achosodd y tân eto, ond nid oes modd bod yn sicr na chafodd ei ddechrau’n fwriadol. Yn aml, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweld cynnydd mewn tanau glaswellt yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn oherwydd tywydd sych a gwynt. Rydym yn atgoffa’r cyhoedd i fod yn ofalus iawn mewn ardaloedd o laswellt sych, trwy gymryd gofal wrth ddiffodd sigarennau, er enghraifft.”
Dywedodd Judith Harvey: “Rydym yn wynebu cyfnod o berygl uchel o dân a bydd ein wardeniaid yn cylchwylio’r ardaloedd risg uchel ac yn cynghori pobl o’r risg gynyddol yn y Parc Cenedlaethol. Rydym yn erfyn ar bobl i beidio a chynnau barbeciwiau a thanau yng nghefn gwlad, ac i beidio a rhyddhau unrhyw lanternau Tsieineaidd. Yn ogystal, mae angen i bobl fod yn gyfrifol o ran diffodd sigarennau neu gael gwared ar danwyr, poteli gwydr a matsys. Os oes unrhyw un yn gweld tân neu rywun yn ymddwyn yn anghyfrifol, dylent eu hadrodd ar unwaith i’r gwasanaeth tân trwy ffonio 999 er mwyn iddynt allu gweithredu yn y dull priodol.”
Mae Mynegai Difrifoldeb Tân Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn parhau i fod yn ‘Uchel’ ac yn ‘Eithriadol’.
-DIWEDD-
Lluniau: Hawlfraint Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
NODIADAU I OLYGYDDION
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dirwedd anhygoel sy’n cynnwys mynyddoedd, daeareg o’r radd flaenaf, bywyd gwyllt helaeth a chyfleoedd hamdden amrywiol. Mae’n cynnwys rhai o ffurfiannau ucheldirol mwyaf ysblennydd ac unigryw de Prydain ac mae’r ardal yn 1,347 cilometr sgwâr o faint (520m2).
Mae’r Swyddfa Dywydd yn cynhyrchu Mynegai Difrifoldeb Tân ar ffurf map ac mae’n bosibl ei weld ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru:
http://www.ccw.gov.uk/enjoying-the-country/countryside-access-map/fire-severity-index-map.aspx Cynrychiolir y Mynegai Difrifoldeb Tân gan raddfa syml sy’n rhagweld amgylchiadau posibl. Mae’r mynegai yn cynnwys pum lefel o risg tân, o un (isel iawn) i bump (eithriadol). Mae sgôr o bump yn golygu tywydd sych iawn neu newidiadau dramatig yng nghyflwr y tir.
Cofiwch fod tanau gwyllt yn gallu digwydd ar unrhyw adeg, beth bynnag yw Mynegai Difrifoldeb Tân y Swyddfa Dywydd.