Y Parc Cenedlaethol yn rhoi croeso cynnes i Ffair Celf a Chrefftau

Bydd dros wyth o wneuthurwyr celf a chrefftau o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn arddangos ac yn gwerthu eu cynnyrch, gan gynnwys nwyddau lledr, gemwaith, ffotograffiaeth, darluniau, crefftau pren a chardiau yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, ger Libanus, o ddydd Sadwrn 28 Mai i ddydd Sul 5 Mehefin. Mynediad am ddim.

Wrth groesawu’r digwyddiad, dywedodd Gareth Ratcliffe, Aelod Hyrwyddo Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dros Ganolfannau Ymwelwyr a Chynghorydd y Gelli, fod y digwyddiad yn gyfle gwych i ymwelwyr archwilio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a dod o hyd i rodd berffaith wedi’i gwneud gan un o’r artistiaid creadigol sy’n gweithio yn yr ardal. “Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn falch iawn o gynnal Ffair Celf a Chrefftau arall yn ystod y gwyliau. Mae’r digwyddiad yn digwydd yn ystod cyfnod pan mae cynifer o ymwelwyr yn ymweld â Gŵyl y Gelli ac edrychwn ymlaen at hyrwyddo a chefnogi’r artistiaid lleol talentog o Fannau Brycheiniog a’r ardal leol.

Mae Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol a’r caffi, sydd wedi’i leoli mewn lleoliad delfrydol gyda golygfeydd dros Ben y Fan, ar agor bob dydd rhwng 9:30am a 5pm. Mynediad am ddim.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ar 01874 623 366 neu anfonwch neges e-bost at visitor.centre@breconbeacons.org