Arddangosfa ‘Mynyddoedd a Llynnoedd’ yn y Sioe Frenhinol
Bydd ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru eleni yn sicr o wledd i’w llygaid pan welant bortread crefftus o amgylchedd arbennig Sir Frycheiniog, a gynhyrchwyd gyda chymorth Cronfa Datblygu Cynaliadwy Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.