Dathlu sêr Bannau Brycheiniog trwy ddiffodd eich golau

Mae’r Parc Cenedlaethol yn galw ar bobl i ddiffodd y golau i nodi 10fed pen-blwydd Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol

Oherwydd y lefelau isel o lygredd golau, dyfarnwyd statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn 2013, gan ei wneud yn un ôl leoliadau gorau’r byd i syllu ar y sêr.

Eleni, i ddathlu deng mlynedd o awyr dywyll, mae’r Parc Cenedlaethol yn lansio ymgyrch i wneud y sêr yn fwy llachar. Rhwng 19:30 a 20:30 ddydd Gwener Chwefror 17, mae’r Parc yn gofyn i fusnesau a chymunedau Bannau Brycheiniog i ddiffodd pob golau sydd ddim yn angenrheidiol.

Mae lefel isel o lygredd golau yn dda ar gyfer syllu ar y sêr, ond mae hefyd yn hanfodol i fywyd gwyllt a’n lles ni. Mae lleihau llygredd golau yn cadw ein rhythm circadian (y cloc corfforol) i fynd. Pan fo’r rhythm hwn yn cael ei darfu, gall achosi newidiadau meddyliol, corfforol ac ymddygiadol.

Mae bywyd gwyllt hefyd angen cynnal cylched circadian. Mae llawer o rywogaethau’r nos o wyfynod i ddraenogod yn lleihau mewn niferoedd. Mae ystlumod yn amrywio eu llwybrau teithio i osgoi golau artiffisial a gall hyn effeithio are u gallu i hela ac osgoi ysglyfaethwyr. Trwy leihau llygredd golau gallwn helpu diogelu bywyd gwyllt y nos.

Dwedodd Carol Williams, Swyddog Twristiaeth Gynaliadwy Bannau Brycheiniog, ‘ Gobeithiwn y bydd pawb yn ymuno gyda ni i ddiffodd eu golau ar y 17eg. Os bydd hi’n noson glir, bydd y sêr yn llawer mwy amlwg gyda llai o lygredd golau. Mae’n cymryd tua ugain munud i olwg yn y nos fod ar ei orau, felly gobeithiwn y bydd awr gyfan yn galluogi pobl i weld y sêr ar eu gorau. Bydd atyniadau fel Castell y Gelli yn diffodd eu llif oleuadau am awr. Gobeithiwn y bydd llawer o fusnesau hefyd yn cymryd rhan.

‘Bannau Brycheiniog oedd y lleoliad cyntaf yng Nghymru i dderbyn statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol a’r pumed lleoliad yn y byd. Rydym yn angerddol am awyr y nos ac am ei rannu gyda phawb. Os bydd y cymylau’n cadw draw bydd pobl yn gallu gweld cytser Orion. Bydd y blaned Iau i’w gweld yn gynnar gyda’r nos a bydd y blaned Mawrth uwchben o 18:30.’

Bydd y Parc Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad i ddechreuwyr i syllu ar y sêr gyda sesiwn ar-lein yng nghwmni Cymdeithas Seryddiaeth Bryn Buga, Chwefror 15fed 18:30 – 19:15 i helpu pobl i ddeall yr hyn maent yn ei weld.

Mae’r Parc wedi awgrymu rhai gweithgareddau y gall pobl eu gwneud:

  • Cyfri’r sêr. Cymharwch faint o sêr gallwch eu gweld heb lygredd golau neu gyda golau. Cewch eich synnu ar y gwahaniaeth.
  • Cynnal picnic dan y sêr. Gwisgwch yn gynnes ac ewch a fflasg o gawl neu frechdanau allan a mwynhau orig yn syllu fry. Os ydych angen golau, defnyddiwch fwlb coch, gan na fydd hyn yn effeithio ar y syllu. Eisteddwch lawr, codwch yr ysbienddrych a mwynhau sioe sy’n costio dim!
  • Noson gysurus dan do. Os nad ydych am fentro allan, ystyriwch eraill gan sicrhau nad yw eich cartref yn goleuo’r nos. Tynnwch y llenni a chynnau canhwyllau am awr.

i ddarganfod mwy am yr ymgyrch, ewch at: breconbeacons.org/stargazing.

DIWEDD