Heddiw, Ionawr 12,mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Choleg y Mynydd Du wedi cyhoeddi partneriaeth newydd gyda’r bwriad o ddarparu model addasu hinsawdd holistig dros dirwedd y Parc.
Ym mhresenoldeb Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, arwyddodd y ddau sefydliad femorandwm o ddealltwriaeth, moment hanesyddol i’r ddwy ochr, i Gymru ac i’r byd. Mae aliniad gwerthoedd a dyheadau’r ddau sefydliad yn gwneud y bartneriaeth yn uniad naturiol, ac yn gam cyntaf tuag at Brifysgol Parc Cenedlaethol cyntaf Ewrop.
Mae’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn cynrychioli bygythiad amlwg i iechyd a lles o fywyd y Parc Cenedlaethol ac yn ehangach. Mae angen newidiadau dramatig ar bob lefel Cymdeithas ac economi er mwyn ymateb, gwyrdroi ac addasu i golli bioamrywiaeth a hinsawdd. Bydd angen dysgu am yr effeithiau a chydweithio wrth i’r byd addasu i amgylchiadau sy’n newid yn barhaus.
Bydd y bartneriaeth yn cyflwyno llwybrau dysgu galwedigaethol, gwyddoniaeth y dinesydd, projectau ymchwil ac addysgu’r cyhoedd am addasiadau i’r hinsawdd ac effaith newid hinsawdd yn unol ag Erthygl 12 Cytundeb Paris.
Dwedodd Catherine Mealing-Jones, Prif Weithredwr y Parc Cenedlaethol, “Ym Mannau Brycheiniog rydym yn cynyddu ein hymdrechion i daclo her fwyaf ein hoes. Bydd ein Cynllun Rheoli yn cael ei lansio ym mis Ebrill. Mae’n uchelgeisiol ei ddyheadau gyda chynllun hir dymor am y chwarter canrif nesaf. Bydd ein partneriaeth gyda’r Coleg yn cyflymu ei wireddu”
Ychwanegodd Ben Rawlence, Prif weithredwr Coleg y Mynydd Du, “Rydym yn falch o weithio gyda’r Parc Cenedlaethol i ymateb ac addasu i’r newidiadau anferthol sy’n digwydd. Mae angen ail sefydlu ein cyswllt gyda natur, a pha well ystafell ddosbarth na phrydferthwch Bannau Brycheiniog!”
Dwedodd Julie James y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, “Mae’n bleser mawr gweld y bartneriaeth yn blodeuo heddiw rhwng Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Choleg y Mynydd Du. Bydd y bartneriaeth o wybodaeth a chreadigrwydd a chymhwysiad ymarferol trwy dalentau a hyfforddi ein pobl ifanc yn meithrin syniadau newydd wrth i ni wynebu argyfwng natur a hinsawdd. Allwn ni ddim taclo colli bioamrywiaeth a newid hinsawdd ar ein pennau ein hunain. Mae partneriaethau fel hyn yn dangos sut mae rhaid i ni gyd ddod at ein gilydd i wynebu’r heriau nid dim ond ym Mannau Brycheiniog ond ar draws y byd. Mae dros 20% o’n tir yn Barciau Cenedlaethol a bydd sicrhau eu bod yn ‘bositif i natur’ yn cael effaith sylweddol ar beth fydd Cymru’r dyfodol yn edrych fel. Rydw i’n gyffrous i weld gwaith y bartneriaeth a’i myfyrwyr.”
Mae newid hinsawdd yn newid bywyd fel rydym ni’n ei adnabod. Mae’r fframweithiau cyfreithiol a sefydlwyd dan Gytundeb Paris, Nodau Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, fframwaith bioamrywiaeth Byd eang Kunming-Montreal, Deddf Newid Hinsawdd y DU (2008), Deddf Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol (Cymru 2015) ac eraill yn darparu dyletswydd ar bob budd ddeiliaid i weithredu. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Choleg y Mynydd Du wedi ymrwymo i arwain ar addasiadau hinsawdd a trwy gydweithio byddant yn cyflawni’r ddyletswydd hanfodol hon.
Am fwy o wybodaeth am Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ewch i’r wefan
beacons-npa.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am Goleg y Mynydd Du, ewch i’r wefan blackmountainscollege.uk/
DIWEDD