Cynhaliodd Twristiaeth Bannau Brycheiniog ei ‘Noson Gymdeithasol y Gwanwyn’ flynyddol yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a mynychodd dros chwedeg o fusnesau lleol, y Cynghorydd Rosemarie Harris (Arweinydd Cyngor Sir Powys) a’r Aelod Cynulliad Kirsty Williams (AC Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Brycheiniog a Maesyfed).
Roedd y digwyddiad yn gyfle i fusnesau lleol rwydweithio â’i gilydd er mwyn paratoi at y prif dymor twristiaeth a chafodd ei gynnal yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru 2018, sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn, ac yn cael ei chydlynu gan Gynghrair Twristiaeth Cymru er mwyn codi proffil diwydiant twristiaeth Cymru. Yn ddiweddar, enillodd Bannau Brycheiniog deitl ‘Cyrchfan Gorau Cymru’ ac roedd y noson yn dathlu’r llwyddiant hwnnw gan bwysleisio pwysigrwydd dull integredig o weithio rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Dywedodd Kirsty Williams, AC Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Brycheiniog a Maesyfed:
“Roedd y digwyddiad yn ddathliad gwych o’n Parc Cenedlaethol prydferth. Wrth eistedd yn y lleoliad gwych hwnnw, yn y ganolfan ymwelwyr, roedd yn hawdd iawn gweld pam fod Bannau Brycheiniog wedi cael eu pleidleisio fel ‘Cyrchfan Gorau’ Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol eleni.
“Roedd gwir deimlad o egni a phenderfyniad yn dod oddi wrth y busnesau lleol oedd yno i gynyddu nifer yr ymwelwyr rhyngwladol a domestig i’r ardal hon ac, yn ôl yr hyn welais i, dwi’n siŵr y byddan nhw’n llwyddiannus.”
Mae’r diwydiant twristiaeth yn allweddol i economi leol ardal Bannau Brycheiniog gydag ymwelwyr yn dod â £250 miliwn yma bob blwyddyn ac yn cefnogi bron i 4,000 o swyddi llawn amser. Mae’r Wobr Genedlaethol yn pwysleisio llwyddiant y cyrchfan wrth adeiladu economi twristiaeth cynaliadwy.
Mae Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ger Libanus ar agor rhwng 9.30 a 4.30 bob dydd ac mae’n darparu gwybodaeth i ymwelwyr wyneb yn wyneb.
Ychwanegodd Colin Evans, Cadeirydd Twristiaeth Bannau Brycheiniog;
Roedd gweld cymaint o fusnesau’n dod i’n digwyddiad cymdeithasol ac yn mwynhau noson o rwydweithio’n wych. Thema Wythnos Twristiaeth Cymru eleni yw ‘Cydweithio er mwyn Cystadlu’ sy’n eithaf addas gan ein bod ni hefyd yma i ddathlu bod Bannau Brycheiniog wedi cael eu henwi’n “Gyrchfan Gorau Cymru” yn y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol yn ddiweddar.
Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill y wobr cyrchfan. Mae’n llwyddiant anhygoel ac yn cydnabod yr holl bartneriaethau ar y cyd sydd wedi bod ar waith yn ystod y 10 mlynedd diwethaf rhwng Twristiaeth Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y rhanddeiliaid sy’n rhan o Bartneriaeth Cyrchfan Cynaladwy Bannau Brycheiniog, busnesau twristiaeth a chymunedau lleol sydd i gyd wedi helpu datblygu ac arddangos y Bannau Brycheiniog prydferth”.
Dywedodd Julian Atkins, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;
“Mae heno’n noson hyfryd yn y Ganolfan Ymwelwyr gyda Phen y Fan yn edrych yn drawiadol iawn yn y cefndir. Mae ennill ‘Cyrchfan Gorau Cymru’ yn llwyddiant mawr i Fannau Brycheiniog ac mae’n adlewyrchu’r gwaith caled a’r penderfyniad mae’r partneriaid a busnesau lleol wedi ei ddangos. Mae twristiaeth cynaladwy’n allweddol i’r economi leol ac fel Parc Cenedlaethol rydyn ni’n gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod busnesau twristiaeth yn gallu hyrwyddo’r hyn sy’n gwneud Bannau Brycheiniog yn lle arbennig a’n rôl ni i’w gadw’n lle arbennig.”
– DIWEDD –