Yr haf hwn mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ehangu ei ymdrechion i fynd i’r afael â’r rhywogaeth anfrodorol ymledol, Jac y Neidiwr. Gyda’i dwf rhemp a’i effaith andwyol ar ecosystemau lleol, nod yr ymdrech hon yw amddiffyn bioamrywiaeth y parc a chadw ei harddwch naturiol am genedlaethau i ddod.
Cyflwynwyd Jac y Neidiwr (Impatiens glandulifera), planhigyn sy’n frodorol i orllewin yr Himalayas, i’r Deyrnas Unedig yn ystod y 19g fel planhigyn addurniadol. Fodd bynnag, roedd ei ledaeniad cyflym a’i natur ddistrywiol yn ei ddosbarthu’n rhywogaeth ymledol iawn, yn trechu llystyfiant brodorol ac yn fygythiad sylweddol i gydbwysedd bregus ecosystemau lleol. Gan gydnabod yr angen dybryd am weithredu, mae gwirfoddolwyr ac awdurdodau parciau wedi uno i frwydro yn erbyn yr her ecolegol hon yn uniongyrchol.
Gan gymryd rhan yn yr hyn a elwir yn ‘Clec i Jac’, mae dwsinau o wirfoddolwyr brwdfrydig wedi dod ymlaen i gynorthwyo gyda’r ymdrechion i’w ddileu. Yn amrywio o amgylcheddwyr angerddol i dimau corfforaethol, mae’r gwirfoddolwyr hyn wedi neilltuo oriau di-rif i gael gwared ar y planhigion ymledol o ardaloedd dynodedig ar draws y parc.
Mae’r broses ddileu yn cynnwys tynnu â llaw, lle mae gwirfoddolwyr yn dadwreiddio’r planhigion yn ofalus i’w hatal rhag gwasgaru hadau. Mae hyn nid yn unig yn cael gwared yn ffisegol ar y bygythiad uniongyrchol a achosir gan Jac y Neidiwr, ond mae hefyd yn amharu ar ei gylch bywyd, gan gyfyngu ar dwf a lledaeniad yn y dyfodol.
“Mae’r ymateb gan ein cymuned wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig,” meddai Nicky Davies, Ecolegydd y Parc Cenedlaethol. “Mae gwirfoddolwyr wedi dangos ymrwymiad eithriadol i warchod treftadaeth naturiol y Parc, ac mae eu cyfraniadau yn amhrisiadwy yn ein brwydr yn erbyn Jac y Neidiwr.
“Rydym wedi bod yn gweithio ar safle yng Nghwm Bwchel ers 2017. Mae wedi bod yn anhygoel gweld sut mae maint dosbarthiad Jac y Neidiwr wedi crebachu mor ddramatig, er na allwn byth orffwys ar ein rhwyfau. Mae’r ffromlys yn cystadlu â rhedyn, felly rydyn ni’n ceisio rheoli hynny hefyd. Mae’r rhedyn yn cael ei dorri i mewn er mwyn i ni allu cyrraedd planhigion Jac y Neidiwr i’w tynnu allan. Mae arwyddion mawr o adferiad natur yn yr ardal. Rydym wedi sylwi ar fwy o glytiau o laswelltir asidig iach, gwlyddyn Mair y gors, eurinllys, sawl rhywogaeth o löyn byw brith, gwiberod a’r fadfall gyffredin. Mae defaid a merlod wedi dychwelyd i’r safle i bori sy’n beth positif iawn.”
Mae’r ymdrech ar y cyd eisoes yn esgor ar ganlyniadau cadarnhaol, gydag ardaloedd sylweddol bellach yn rhydd rhag pla o Ffromlys Chwarennog. Trwy gael gwared ar y rhywogaeth ymledol hon, mae’r gwirfoddolwyr yn galluogi planhigion brodorol a bywyd gwyllt i ffynnu, a thrwy hynny adfer cydbwysedd ecolegol y parc.
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn annog unigolion sy’n frwd dros gadwraeth i ddysgu sut i adnabod a chael gwared ar Jac y Neidiwr yn effeithiol. Gellir dod o hyd i adnoddau a gwybodaeth werthfawr ar adnabod a dileu’r rhywogaeth ymledol hon ar wefan Llywodraeth Cymru yn: https://www.gov.wales/himalayan-balsam-public-information-controlling-invasive-species. Trwy ennill y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i frwydro yn erbyn Jac y Neidiwr, gall pawb gyfrannu’n weithredol at warchod ecosystem fregus y Parc.
DIWEDD