Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn bencampwyr hygyrchedd gyda lansiad Reidiwr pob Tirwedd

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi prynu Reidiwr pob Tirwedd, sgwter i wella hygyrchedd i’r dirwedd odidog o gwmpas ei chanolfan ymwelwyr. Mae hyn wedi bod yn bosib gan gyllid o gronfa Hanfodion Gwych Llywodraeth Cymru. Bydd y dadorchuddio swyddogol yn digwydd yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus, ddydd Iau Gorffennaf 13eg 2023.

Bydd cynrychiolwyr o’r Cerddwyr Anabl, y Fforwm Mynediad Lleol (FfMLl), Hygyrchedd Powys, Grŵp Mynediad Brycheiniog, Brilliant Basics, staff, aelodau, gwirfoddolwyr ac unigolion eraill sydd wedi cyfrannu at ddatblygiad y project hwn yn bresennol yn y digwyddiad.

Mae cyflwyno’r ‘Reidiwr pob Tirwedd’ yn arwydd o ymrwymiad Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i wneud tirweddau a gweithgareddau awyr agored y Parc yn hygyrch i unigolion o bob gallu. Bydd y cerbyd symudedd hwn sydd wedi’i ddylunio’n arbennig yn galluogi ymwelwyr â heriau symudedd i archwilio a phrofi rhyfeddodau naturiol y Parc o lwybrau dynodedig ar Fynydd Illtyd ger y Ganolfan Ymwelwyr. Daw’r Reidiwr fel rhan o gyfres o newidiadau, sy’n cynnwys mannau parcio ychwanegol i’r anabl, llwybrau mwy hygyrch a chyfleuster toiledau anabl Changing Places.

Mae’r Reidiwr pob Tirwedd yn cynnwys technoleg uwch, sy’n caniatáu iddo groesi amrywiol diroedd. Mae ei adeiladwaith gwydn a’i ddyluniad addasadwy yn ei wneud yn addas ar gyfer mordwyo tirweddau amrywiol, gan gynnwys llwybrau, llwybrau mwy serth a bydd yn helpu unigolion â symudedd cyfyngedig i arsylwi ar ei fywyd gwyllt, a chysylltu â natur.

“Rydym yn falch o gyflwyno’r Reidiwr pob Tirwedd i Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, gan hybu ein hymrwymiad i wella hygyrchedd o fewn y Parc,” meddai Wayne Lewis, Rheolwr Masnachol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. “Mae’r fenter hon yn adlewyrchu ein hymroddiad i sicrhau y gall pawb fwynhau rhyfeddodau ein Parc Cenedlaethol. Estynnwn ein diolch i gronfa Hanfodion Gwych Llywodraeth Cymru, Cerddwyr Anabl, y Fforwm Mynediad Lleol, Grŵp Mynediad Brycheiniog, a phawb a fu’n ymwneud â gwneud hyn a gwireddu ein gweledigaeth.”

Mae lansiad y Reidiwr pob Tirwedd  yn dangos ymroddiad Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ddarparu profiad cynhwysol i bob ymwelydd. Trwy hyrwyddo hygyrchedd, nod y Parc yw grymuso unigolion o bob gallu i ymgysylltu â byd natur a chreu atgofion parhaol o fewn y tirweddau hynod sy’n diffinio Bannau Brycheiniog.

I gael rhagor o wybodaeth am y Reidiwr pob Tirwedd ac i’w archebu i’w ddefnyddio, ewch i:

Sgwter reidiwr | Bannau Brycheiniog National Park Authority

ENDS