GEOBARC FFOREST FAWR WEDI EI GYNNWYS YMYSG LLEOLIADAU UNIGRYW UNESCO YN Y DU AR FAP DARLUNIADOL

 

  • Map Newydd yn cael ei lansio sy’n cynnwys pob un o’r 58 lleoliad UNESCO yn y DU am y tro cyntaf
  • Map wedi ei ddarlunio gan yr artist Tom Woolley
  • Annog ymwelwyr i ddarganfod lleoliadau newydd i ymweld a nhw sydd ar stepen y drws

Beth am ddod o hyd i anturiaethau Newydd yr haf hwn a darganfod Geobarc Fforest Fawr a 57 o leoliadau UNESCO eraill yn y DU diolch i fap darluniadol Newydd y gallwch ei lwytho lawr am ddim gan Gomisiwn Cenedlaethol UNESCO y DU.

O fynyddoedd eang ac arfordiroedd trawiadol i ddinasoedd bywiog a thirweddau gwledig – mae safleoedd UNESCO y DU yn gyrchfannau o dreftadaeth naturiol a diwylliannol o safon fyd-eang. Am y tro cyntaf mae map, a ddarluniwyd gan y cartograffydd creadigol Tom Woolley, yn dwyn ynghyd yr holl Warchodfeydd Biosffer, Dinasoedd Creadigol, Geoparciau Byd-eang a Safleoedd Treftadaeth y Byd ar draws Ynysoedd Prydain y gellir ymweld a nhw.

Gwahoddir ymwelwyr i’r lleoliadau i ymgolli yn y golygfeydd godidog o dirwedd llechi Gogledd Orllewin Cymru neu Ucheldir yr Alban. Plymiwch i dreftadaeth lenyddol Manceinion neu Gaeredin. Cerddwch fynyddoedd Ardal y Llynnoedd Seisnig neu gopaon Fforest Fawr. Darganfyddwch chwedlau a llên gwerin ar hyd Sarn y Cawr neu Gôr y Cewri. Anadlwch aer môr Brighton a Lewes, Gogledd Dyfnaint neu Riviera Lloegr. Mynd i’r afael â ffiniau mwyaf gogleddol yr ymerodraeth Rufeinig ar droed neu ar feic. Ewch am dro o gwmpas un o drefi spa mawr Ewrop yng Nghaerfaddon neu stad eang Palas Blenheim. dawnsiwch drwy’r nos mewn neuadd gyngerdd eiconig yn Belfast neu mewn gŵyl dan y sêr yn un o arsyllfeydd gofod mwyaf y byd yn Jodrell Bank.

Mae’r map newydd, a ryddhawyd ar-lein yr wythnos hon, yn cynnwys 29 o Safleoedd Treftadaeth y Byd, 13 o Ddinasoedd Creadigol, 9 Geobarc Byd-eang a 7 Gwarchodfa Biosffer sy’n cwmpasu 13% o dir y DU. Mae mynediad am ddim i’r rhan fwyaf o’r safleoedd ac maent yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnig profiadau newydd i’r cyhoedd i ddarganfod safleoedd UNESCO yn y DU sydd ymysg rhai o leoedd mwyaf arbennig y byd.

Dros y misoedd nesaf bydd Geobarc Fforest Fawr yn cynnig cyfle i ymwelwyr fwynhau teithiau cerdded yn rhai o’n tirweddau mwyaf diddorol. Chwiliwch am ein Geolwybrau hunan-dywys.

Dywedodd James Bridge, Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd Cyffredinol Comisiwn Cenedlaethol y DU ar gyfer UNESCO: “Bydd y map newydd hwn gan UNESCO yn y DU yn ysbrydoli pobl am leoedd i ymweld â nhw. Mae’n dangos ar gip ehangder y dreftadaeth naturiol, ddiwylliannol ac adeiledig anhygoel sydd wedi’i dynodi gan UNESCO fel un o arwyddocâd rhyngwladol yn y DU. Mae’r map gwych hwn yn amlygu lleoedd i’w harchwilio, ar garreg eich drws ac ymhellach i ffwrdd, yr enwog a’r rhai i’w darganfod am y tro cyntaf.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “Rwy’n hynod falch bod Cymru’n gartref i bedwar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae’r map newydd hwn yn darlunio ein cyrchfannau o safon fyd-eang yn hyfryd, ac wrth i ni barhau i warchod y safleoedd hyn, bydd cenedlaethau i ddod yn mwynhau eu harwyddocâd. Mae Cymru yn genedl agored a chroesawgar, un sy’n gwahodd y byd i ddarganfod ein rhyfeddodau naturiol, diwylliant a threftadaeth sydd gan safleoedd UNESCO i’w cynnig.”

Dywedodd Alan Bowring, Swyddog Geoparc Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog “Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn leoliad i Geobarc Byd-eang Fforest Fawr a Safle Treftadaeth y Byd gyda Thirwedd Ddiwydiannol Blaenafon ac mae’r ddau yn ymddangos ar y map. Gall ymwelwyr ddilyn y cyfoeth o straeon y tu ôl i’r ddau dirwedd hwn; rhai daearegol o’r gorffennol pell a rhai dynol o’r gorffennol mwy diweddar”

Cynhyrchwyd y map gan Gomisiwn Cenedlaethol y DU ar gyfer UNESCO fel rhan o’i brosiect Lleol i Fyd-eang, a wnaed yn bosibl gyda’r Ymgyrch GREAT a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Nod Lleol i Fyd-eang yw datblygu rhwydwaith gwydn ar gyfer Safleoedd Dynodedig UNESCO yn y DU.

 

Gellir lawrlwytho’r map o: https://unesco.org.uk/our-sites

DIWEDD