Lansio’r Prosiect Cysylltu Gylfinir yn ystod Sioe Frenhinol Cymru

Heddiw yw lansiad swyddogol prosiect £1 miliwn i atal colled aderyn eiconig Cymreig. Bydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn uno gyda phartneriaid er mwyn lansio’r prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru yn y Sioe Frenhinol.

Mae’r gylfinir yn aderyn carismatig sy’n magu ymysg fferm-diroedd a gweundiroedd Cymru yn ystod misoedd y Gwanwyn a’r Haf cynnar.  Mae eu cri nodweddiadol, a ystyrir gan lawer fel cri sy’n datgan dyfodiad y Gwanwyn, yn dwyn i’r cof dirluniau gwyllt, ac mae’n aderyn sy’n agos at galon llawer ohonom, serch hynny mae eu niferoedd wedi disgyn yng Nghymru dros y 30 mlynedd diwethaf o ryw 5,700 pâr tybiedig ym 1993, i gyn lleied â 400 pâr sy’n magu drwy Gymru gyfan erbyn heddiw. Nifer bychan o wyau a chywion sy’n goroesi i’w hoedolaeth bob blwyddyn, sy’n golygu bod poblogaeth yr adar hyn yn prinhau yn yr hir dymor ac erbyn hyn fe’i ystyrir fel yr aderyn sy’n achosi’r pryder mwyaf i ni yng Nghymru o ran dyfodol ei gadwraeth.

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhan o bartneriaeth a adweinir fel Gylfinir Cymru, sydd wedi derbyn bron i £1 milliwn mewn nawdd o Gronfa Rhwydweithiau Natur. Rhaglen grant yw hon a ddarperir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru.

Daeth y prosiect tair blynedd hwn, o’r enw Cysylltu Gylfinir Cymru, ynghyd o ganlyniad i bedwar o brif aelodau Gylfinir Cymru (Y Game and Wildlife Conservation Trust; Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy; Curlew Country a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog). Maent yn cydweithio o fryniau Sir Ddinbych yng ngogledd Cymru, drwy ganolbarth Cymru ac i lawr at Fannau Brycheiniog yn y de.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir yn nodi’r hyn sydd angen i ni ei wneud er mwyn atal dirywiad y rhywogaeth brydferth ac eiconig hon. Bydd y nawdd yn galluogi’r partneriaid i weithio mewn tair ardal allweddol yng Nghymru er mwyn cychwyn ar y broses hon. Bydd y partneriaid yn gweithio ar y cyd â ffermwyr, rheolwyr tir a chymunedau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch y trafferthion y mae’r gylfinir yn eu hwynebu ac er mwyn gosod mesurau yn eu lle sy’n ymateb i achos eu dirywiad, wrth weithio tuag at gynaladwyedd.

Er mwyn i’r gylfinir fagu’n llwyddiannus mae angen ystod o gynefinoedd ac amodau da arnynt ar draws tirlun eang.  Drwy weithio mewn partneriaeth â ffermwyr a rheolwyr tir byddwn yn cefnogi gweithredoedd sy’n adfer y gylfinir wrth weithio tuag at gynaladwyedd. Os na wnawn ni weithredu, rhagwelir y byddwn yn colli’r gylfinir yng Nghymru o fewn y ddegawd nesaf.

Dwedodd Nicky Davies, Ecolegydd ym Marc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, “Mae’n gymaint o bleser gweld lansiad y prosiect hwn yn y Sioe Frenhinol. Rydym wedi cydweithio’n agos gyda’n partneriaid er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud bob dim posib dros yr aderyn eiconig hwn. Gyda chyn lleied ohonynt ar ôl yn ein tirlun, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas i atal dirywiad pellach ac, yn y pendraw, colled cyfan gwbl y gylfinir. Mae pobl yn teimlo’n angerddol dros y gylfinir, ac wedi misoedd o gydweithio, rwy’n falch iawn o weld y prosiect yn cael ei lansio’n swyddogol.”

Ym Mannau Brycheiniog bydd y prosiect yn cael ei gynnal yn Nyffryn Wysg, lle gobeithiwn bydd y nawdd yn cael yr effaith fwyaf. Mae’r Gylfinir yn rhywogaeth sy’n dangos i ni sut mae pob rhywogaeth arall ar hyn o bryd; os ydynt yn ffynnu mae’n arwydd bod yr holl ecosystem yn ffynnu. Mae gwarchod yr aderyn hwn yn rhan allweddol o gynllun y Parc Cenedlaethol ar gyfer y dyfodol. Darllenwch ragor fan hyn https://dyfodol.bannau.cymru/nature

DIWEDD