Cwestiynau cyffredin yn ymwneud â’r ail-frandio a’r cynllun rheoli

Diolch am yr holl ddiddordeb sydd wedi bod i’n cynllun rheoli uchelgeisiol a hunaniaeth corfforaethol newydd. Mae’r datganiad hwn yn ymateb i’r cwestiynau sydd wedi eu gofyn fwyaf.

Cyflwyniad: Mae’r Cynllun Rheoli a brand newydd y Parc Cenedlaethol yn cydgysylltu

Ar Ebrill 17 2023 cyhoeddodd y Parc Cenedlaethol sy’n cael ei adnabod fel Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog / Brecon Beacons National Park Authority Y Bannau –Y Dyfodol (Cynlllun Rheoli ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) (https://future.bannau.wales/) a lansio hunaniaeth corfforaethol i adlewyrchu cynnwys a gwerthoedd Y Bannau yn well.

Nid oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i ddeddfwriaeth sylfaenol ac mae dynodiad Awdurdod y Parc yn parhau i fod yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Enw Cymraeg

Ym 1957, sefydlwyd y Parc Cenedlaethol o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 a sefydlwyd Awdurdod y Parc Cenedlaethol (ei gorff llywodraethu) o dan Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 gyda’i enw yn y Gymraeg a’r Saesneg:

Enw Saesneg Awdurdod y Parc Cenedlaethol             Enw Cymraeg Awdurdod y Parc Cenedlaethol            

 

Brecon Beacons National Park Authority Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

 

Nid yw enw Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi newid.Ond, mae ein hunaniaeth gorfforaethol/ brand wedi newid i Banau Brycheiniog. Roedd hwn yn benderfyniad busnes i’r sefydliad.  Ondmae

Y defnydd o’r Saesneg

Bydd enw Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn yr iaith Saesneg (yr iaith swyddogol arall yng Nghymru) yn parhau i gael ei ddefnyddio i gydymffurfio â dyletswyddau cyfreithiol.

Gellir defnyddio’r enw Cymraeg neu Saesneg ar Awdurdod y Parc Cenedlaethol – gall pobl ddewis yr hyn sydd orau ganddynt, ond mae hwn yn newid sefydliadol sy’n adlewyrchu’n well ein stiwardiaeth o rinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol gan gydnabod ei hanes, tirwedd, iaith a diwylliant a dyletswyddau a rhwymedigaethau Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Hunaniaeth gorfforaethol/ brand newydd

Ni ddechreuodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol gyda’r bwriad o newid mor sylfaenol i hunaniaeth gorfforaethol. Dechreuodd oherwydd bod y logo blaenorol yn anodd ei atgynhyrchu yn y fformat digidol.

Drwy’r broses o ddatblygu’r Cynllun Rheoli, penderfynodd Awdurdod y Parc wneud newid mwy sylweddol i’n brand a’n hunaniaeth gorfforaethol ein hunain am bedwar prif reswm ochr yn ochr â’r angen i gael brand mwy digidol-gyfeillgar:

  • Nid yw’r symbol o oleuadau sy’n gollwng carbon yn cyd-fynd ag ethos Awdurdod y ParcCenedlaethol a’i ddibenion statudol

Mae cadwyn Mynyddoedd Canol y Bannau yn gorchuddio cyfran lawer llai o ddaearyddiaeth y Parc na theyrnas hanesyddol Brycheiniog.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi ymrwymo i gyflawni ei dyletswyddau deddfwriaethol wrth hyrwyddo’r Gymraeg

  • Nid oes tystiolaeth bod goleuadau llosgi (y logo blaenorol) erioed wedi bodoli ar gopaon y Parc Cenedlaethol

Ymgynghoriad

Buom yn ymgysylltu â llawer o bobl yn ystod y broses o ddatblygu ein brand newydd a’n cynllun rheoli i helpu i lywio ein cyfeiriad;

Cynllun Rheoli

Roedd hyn yn cynnwys gweithio drwyddo draw gyda phanel cyfeirio rhanddeiliaid a chyda chynulliad dinasyddion i brofi ein ffordd o feddwl ac i fyfyrio ar fewnbynnau eraill sy’n dod drwy’r ymgynghoriad.

Roedd y Cynllun Rheoli drafft ar agor ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o 17 wythnos rhwng 4 Tachwedd 2021 a 4 Mawrth 2022. Hyrwyddwyd yr ymgynghoriad yn helaeth. Cyhoeddodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol ymateb i’r ymgynghoriad ym mis Mehefin 2022 . Ymysg yr ymateb hwn y mae’r deunyddiau sy’n berthnasol i’r polisi iaith Gymraeg.

Grwpiau ffocws brandio

Cynhaliodd yr asiantaeth y buom yn gweithio gyda hi ar ein brand newydd sesiynau manwl yn cynnwys:

  • Gweithdy Brandio y Tim Cyfathrebu
  • Gweithdy Brandio Budd ddeiliaid yr Awdurdod
  • Gweithdy Brandio Aelodau a Gwirfoddolwyr
  • Gweithdy Brandio Partneriaid

Roedd canlyniadau y sesiynau hyn yn cefnogi y broses dod i ganlyniad ar gyfer y brand newydd.

Cost

Cafodd yr asiantaeth y buom yn gweithio gyda hi ar y brand ei chaffael yn unol â rheolau arferol caffael cyhoeddus. Bu Michael Sheen yn garedig iawn yn rhoi o’i amser yn rhad ac am ddim i helpu i rannu ein neges.

Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn disodli ein harwyddion a’n hasedau printiedig ffisegol dim ond pan nad ydynt bellach yn addas i’r diben yn unol â’n gwerthoedd cynaliadwy. Pan fyddwn yn  adnewyddu stoc byddwn yn gwneud hynny gyda’r brandio newydd.

The following costs are directly associated with the change to the National Parks Corporate identity.

 Cyflenwr Gwasanaeth Cost £
CREO Datblygu’r brand, yn cynnwys ymgynghoriad, cefnogaeth gyda strategaeth brandio a’r dyluniad terfynol £8,880.00
Columbia Crysau polo a siacedi gyda’r brand newydd £1,496.78
 Costau uniongyrchol £10,376.78

Lansiwyd Cynllun Rheoli a’r newid i hunaniaeth corfforaethol ar yr un pryd ac nid yw wedi bod yn bosib gwahaniaethu y costau sydd fel a ganlyn:

 Cyflenwr Gwasanaeth Cost £
CREO Cefnogaeth cyfryngau cymdeithasol i lansio Cynllun Rheoli a brand y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys datblygu a dylunio asedau digidol £5,760.00
CREO Dylunio ac argraffu ar gyfer arddangosfa oriel i ymgysylltu preswylwyr ac ymwelwyr â’r cynllun rheoli £1,555.00
RewiredLife Fideograffeg, gan gynnwys cyfarwyddwr, recordydd sain, gweithredwr drôn, golygydd a ffilm stoc £4,792.81
Rogers, Coleridge and White Caffael awdur lleol ac Athro mewn Creadigrwydd, Owen Sheers, i gydweithio ar ysgrifennu sgript ar gyfer y ffilm ‘Cynefin’. £1,500.00
Michael Sheen Perfformiad ar gyfer y ffilm Cynefin   DIM FFI
Seymour PR Cefnogaeth PR ar gyfer lansiad y cynllun rheoli a brandio £5,600.00
Costau na ellir eu rhannu £19,207.81
Cyfanswm  Costau Costau uniongyrchol £10,376.78
Costau na ellir eu rhannu £19,207.81
£29,584.59

Roedd costau yr ail frandio i’n hunaniaeth gorfforaethol o fewn ein cyllideb. Y costau a gyllidwyd ar gyfer y newid i hunaniaeth gorfforaethol oedd £30,000 gyda £30,000 ychwanegol i’r cynllun rheoli.