Y Parc Cenedlaethol yn croesawu cyllid £1m i’r gylfinir

Heddiw, croesawodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog y cyhoeddiad am gronfa newydd gwerth £1 miliwn i helpu i achub y gylfinir sydd mewn perygl.

Mae’r gylfinir yn aderyn carismatig sy’n bridio ar dir fferm a rhostiroedd ledled Cymru yn ystod misoedd y gwanwyn a dechrau’r haf. Mae eu galwad nodedig, a ystyrir gan lawer yn arwydd y gwanwyn, yn atgofus o dirweddau gwylltach ac yn annwyl gan lawer, ond mae eu niferoedd wedi bod yn gostwng yng Nghymru dros y 30 mlynedd diwethaf. O amcangyfrif o tua 5,700 o barau yn 1993, i gyn lleied â 400 o barau magu ar draws Cymru gyfan erbyn hyn. Ychydig iawn o wyau a chywion sy’n cyrraedd dod yn oedolion bob blwyddyn, sy’n golygu bod poblogaeth yr adar yn lleihau yn y tymor hir ac mae’r gylfinir bellach yn cael ei hystyried fel yr aderyn sy’n peri’r pryder cadwraeth mwyaf yng Nghymru.

Mae’r Parc Cenedlaethol yn rhan o bartneriaeth o’r enw Gylfinir Cymru sydd wedi’i sefydlu i gymryd camau i atal difodiant y gylfinir ledled Cymru. Fe’i hariennir gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur, sef rhaglen grant Llywodraeth Cymru a ddarperir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Cafodd y prosiect tair blynedd hwn, a elwir yn Cyswllt Gylfinir, ei sefydlu gan bedwar o aelodau allweddol Gylfinir Cymru (Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt; AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy; Curlew Country; a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog). Maent yn cydweithio o fryniau Sir Ddinbych yng ngogledd Cymru, trwy ganolbarth Cymru ac i lawr i Fannau Brycheiniog yn y de.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir yn nodi beth sydd angen ei wneud i atal dirywiad y rhywogaeth hardd ac eiconig hon. Bydd y cyllid hwn yn galluogi partneriaid i weithio o fewn tri maes allweddol yng Nghymru mewn ymdrech i gychwyn y broses hon. Bydd y partneriaid yn gweithio ochr yn ochr â ffermwyr, rheolwyr tir a chymunedau lleol i godi ymwybyddiaeth o gyflwr y gylfinir a dechrau rhoi mesurau ar waith i fynd i’r afael ag achosion eu dirywiad, tra’n gweithio tuag at gynaliadwyedd.

Mae angen amrywiaeth o gynefinoedd ac amodau ffafriol ar raddfa tirwedd ar y gylfinir i fridio’n llwyddiannus. Gan weithio mewn partneriaeth â ffermwyr a rheolwyr tir byddwn yn cefnogi camau gweithredu ar gyfer adferiad y gylfinir tra’n gweithio tuag at gynaliadwyedd. Os na chymerir unrhyw gamau, rhagwelir y bydd y gylfinir sy’n bridio sy’n bridio yn diflannu o fewn y degawd nesaf yng Nghymru.

Dywedodd Nicola Davies, Ecolegydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect hwn a arweinir gan bartneriaeth Cymru gyfan sy’n canolbwyntio ar y gylfinir. Gyda chyn lleied ar ôl yn y dirwedd, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas i wrthdroi’r dirywiad, ac yn y pen draw difodiant, y gylfinir.Bydd y cyllid hwn ar gyfer prosiect Cyswllt Gylfinir yn ein helpu i ddathlu galwad arswydus ac ethereal y gylfinir ar draws y dirwedd unwaith eto yma yn y Bannau.”

Ym Mannau Brycheiniog bydd y prosiect yn ymestyn ar hyd dyffryn Wysg, a’r gobaith yw y bydd yr arian yn gwneud  gwahaniaeth go iawn. Rhywogaeth ddangosol yw’r gylfinir; os ydynt yn gwneud yn dda, yna mae’n arwydd bod yr ecosystem gyfan yn ffynnu. Mae gwarchod yr aderyn yn rhan allweddol o gynllun y Parc Cenedlaethol ar gyfer y dyfodol. Darganfyddwch fwy yn https://dyfodol.bannau.cymru/natur

DIWEDD