Gŵyl Geoparc yn dathlu treftadaeth Gymreig falch

Mae Gŵyl Geoparc y Fforest Fawr, a drefnwyd fel rhan o bythefnos Geoparcau Ewropeaidd, am yr wythfed flwyddyn yn darparu 16 diwrnod o deithiau cerdded, sgyrsiau a digwyddiadau eraill a gynhelir rhwng
Dydd Sadwrn, 26ain Mai a Dydd Sul, 10fed Mehefin.

Mae’r ŵyl, a drefnwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’i bartneriaid yn y Geoparc, yn cynnig dros 20 o ddigwyddiadau sy’n helpu i goffáu treftadaeth ddaearegol unigryw hanner gorllewinol y Parc Cenedlaethol, yn ogystal â dathlu etifeddiaeth gwyddonwyr, mwyngloddwyr, chwarelwyr ac adeiladwyr ffyrdd Cymru. Mae rhaglen yr ŵyl yn cynnwys cyfres o deithiau cerdded a sgyrsiau, syn archwilio corsydd, glaswelltiroedd, chwareli a phyllau glo a llawer mwy, sy’n addas ar gyfer plant ac oedolion; daearegwyr, cerddwyr neu selogion.  Gyda chymorth arbenigwyr creigiau ymroddgar, gall fynychwyr gamu 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl mewn amser i Dde Cymru a oedd yn torheulo yn haul y cyhydedd – a gweld, clywed a chyffwrdd yr hyn adawodd yr oesoedd hynny ar ôl.

Fel Geoparc cyntaf Cymru, a’r unig Geoparc yn y DU sydd mewn Parc Cenedlaethol, mae Fforest Fawr yn un o’r 50 o leoliadau ar draws Ewrop sy’n cynnal digwyddiadau am eu daeareg amrywiol ac arbennig yn ystod Pythefnos Geoparcau Ewropeaidd.

Ymysg uchafbwyntiau’r bythefnos o wledd, mae sgwrs ar dirwedd calch y Geoparc yn Abercraf ar ddydd Llun, 28 Mai, taith gerdded Corsydd a Mawnogydd ar ddydd Mercher, 30 Mai, ac ar ddydd Llun, 7 Mehefin, bydd sgwrs gan Toby Driver ar y Geoparc o’r awyr, yn arddangos ei gasgliad ysblennydd o ffotograffiaeth o’r awyr yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu.

Dywedodd Alan Bowring, Swyddog Datblygu’r Geoparc ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Rydym yn ffodus bod y dirwedd anhygoel hon sy’n llawn straeon – rhai cyfarwydd ac anghyfarwydd – ar stepen ein drws. Ar adegau, rydym wedi arwain y byd yma yng Nghymru, yn bod yn hynod uchelgeisiol ac yn arloesol gyda’n dealltwriaeth o ddaeareg ac wrth arwain y ffordd yn olrhain cwrs y Chwyldro Diwydiannol. Mae etifeddiaeth yr oesoedd hynny wedi ei naddu yn ein tirwedd a’r dylanwad Cymreig wedi treiddio i iaith daeareg ei hun.’

Ychwanegodd Mrs Julie James, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’r ystod o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn yr Ŵyl Geoparcau eleni yn wefreiddiol: mae’n atgyfnerthu lle mor wych i fyw, i weithio ynddo neu i ymweld ag ef yw fan hyn. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o rwydwaith fawreddog Ewropeaidd a byd-eang o Geoparcau, ac mae gan bob un eu straeon anhygoel eu hunain i’w hadrodd. Rwyf yn edrych ymlaen yn arbennig i weld cymunedau ac ymwelwyr yn dod at ei gilydd mewn digwyddiadau nad ydynt am ddaeareg yn unig, ond hefyd am ddathlu treftadaeth a diwylliant anhygoel ardal orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r bobl sy’n byw yno.”

Mae’r holl ddigwyddiadau wedi’u rhestru nid yn unig mewn pamffled yn arbennig ar gyfer yr ŵyl, ond hefyd yn Llawlyfr Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol – mae’r ddau ar gael o Ganolfannau’r Parc Cenedlaethol a Chanolfannau Gwybodaeth Twristiaid (yn cynnwys Aberhonddu, Llanymddyfri, Y Fenni a Phontneddfechan). Mae rhestr o’r digwyddiadau hefyd ar gael ar wefan y Parc Cenedlaethol www.breconbeacons.org, ac mae gwybodaeth Gymraeg a dogfennau i’w llwytho i lawr ar gael hefyd.

Am fwy o wybodaeth mewngofnodwch i www.fforestfawrgeopark.org.uk  neu www.geoparcyfforestfawr.org.uk.
Fel arall, ewch ar wefan Rhwydwaith Geoparcau Ewropeaidd www.europeangeoparks.org
neu cysylltwch ag Alan Bowring ar 01874 620 415 neu anfonwch e-bost.

 

-DIWEDD-