Gyda thristwch mawr a chalon drom, mae’n rhaid i ni gyhoeddi ein bod ni wedi colli un o’n Bannau, wedi dyfodiad data technolegol newydd. Efallai, drwy lynu at Straeon a Chwedlau Cymreig, sy’n gyfarwydd ym Mannau Brycheiniog, y byddai’n fwy addas i ni nodi bod un o’n mynyddoedd wedi troi’n fryn.
Mae Fan y Big, sy’n rhan o’r gefnen uchel sy’n anelu tua’r dwyrain o’r enwog Pen y Fan, wedi colli ei statws fel mynydd ar ôl i ddata newydd ddangos nad oedd yn bodloni’r meini prawf caeth. Mae’r gofynion dosbarthu yn nodi bod angen i fynyddoedd fod o leiaf 2,000 troedfedd o uchder (610m) a chwymp o o leiaf 98.4 troedfedd (30m) rhwng y copa a’r col. Saif Fan y Big yn falch ar daldra o 2,351 troedfedd (717.6m). Serch hynny, dengys mesuriadau newydd o’r cwymp, a wnaed gan ddefnyddio technoleg lloeren, mai 93.4 troedfedd (28.5m) yw’r cwymp, sydd 5 troedfedd (1.5m) yn llai na’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer statws mynydd.
Myrddyn Phillips o’r Trallwng fu’n gwneud arolwg o’r mynydd a recordiodd y data newydd gan ddefnyddio technoleg lloeren. O ganlyniad mae Fan y Big wedi ei dynnu oddi ar restr o Hewitts – Mynyddoedd yn Lloegr, Cymru ac Iwerddon dros 2,000 troedfedd o uchder (610m) gyda chwymp rhwng y copa a’r col o leiaf 98.4 troedfedd (30m).
Er ein bod ni, ar bapur, wedi colli Ban, mae pob un ohonom ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gwybod y bydd Fan y Big yn parhau i fod yn fynydd i’w ddringo, yn frig i’w gyrraedd ac yn gopa gwerth ei weld. Gadewch i’r lloerenni a’r ffigyrau ddangos beth fynnan nhw, ond o dan awyr serog y nos, bydd Fan y Big yn parhau i fod yn un o’r uchafbwyntiau yng Nghyrchfan Orau Cymru.
– DIWEDD –