Profiad Gwaith yn y Parc Cenedlaethol

Mae naw o oedolion ifanc lleol wedi cael y cyfle i dreulio pedwar diwrnod ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac ennill profiad mewn ystod eang o weithgareddau galwedigaethol.

Mae’r rhaglen profiad gwaith yn rhan o brosiect Cronfa’r Loteri Genedlaethol a gynhelir yng Ngwaith Powdr Gwn Glyn-nedd ym Mhontneddfechan sy’n cael ei reoli a’i weithredu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cafodd y bobl ifanc, rhwng 15 a 17 oed, gyfle i gael blas ar wahanol rolau swyddi sy’n bodoli o fewn Awdurdod y Parc Cenedlaethol a chyflawni gweithgareddau amrywiol o gloddfeydd archeolegol i ysgrifennu datganiadau i’r wasg.

Mae prosiect Y Gwaith Powdr Gwn yn canolbwyntio ar ddiogelu’r safle hanesyddol sy’n henebyn rhestredig, gan gadw ei brif strwythurau a dod â hanes cyfoethog y safle yn fyw drwy ddehongli. Drwy brofiad gwaith, mae’r bobl ifanc wedi cael y cyfle i ymgysylltu â’u treftadaeth a’u hamgylchedd lleol, gan ddysgu sgiliau newydd a fydd o fudd iddynt yn y dyfodol.

Dywedodd Ed Evans, Cadeirydd newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;

‘’Mae’n wych croesawu’r bobl ifanc hyn i’n Parc Cenedlaethol a darparu profiad gwaith gwerthfawr a fydd yn gymorth iddynt symud ymlaen yn y dyfodol. Rydym yn deall pwysigrwydd ymgysylltu â’r genhedlaeth ifanc a thrwy raglenni fel hyn rydym yn gobeithio datblygu llysgenhadon y Parc Cenedlaethol yn y dyfodol.’’

Ychwanegodd Julian Atkins, Prif Swyddog Gweithredol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;

‘’Hoffwn ddiolch i’r bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen brofiad gwaith hon am eu gwaith caled yn y gweithgareddau y gwnaethant gymryd rhan ynddynt. Rwy’n gobeithio bod eu cyfnod byr gyda ni wedi rhoi cipolwg iddynt i mewn i’n Parc Cenedlaethol ni ac wedi darparu ysbrydoliaeth iddynt ar gyfer eu dewisiadau gyrfa yn y dyfodol.’’

Ynglŷn â Chronfa Dreftadaeth y Loteri

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydyn ni’n buddsoddi arian i helpu pobl ledled y DU i archwilio, mwynhau a gwarchod eu treftadaeth nhw – o’r archeoleg sydd o dan ein traed i’r parciau hanesyddol a’r adeiladau yr ydyn ni’n eu caru, o atgofion gwerthfawr a chasgliadau i fywyd gwyllt prin. https://cymraeg.hlf.org.uk/ Dilynwch ni ar Trydar, Facebook a Instagram a defnyddiwch yr hashnod #NationalLottery a #HLFsupported.

– DIWEDD –