Dathliad Cyrchfan Orau yng Nghymru
Cynhaliodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Thwristiaeth Bannau Brycheiniog ddigwyddiad yn Theatr Brycheiniog i ddathlu llwyddiant diweddar y gyrchfan yn y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol. Pleidleisiwyd Bannau Brycheiniog fel Cyrchfan Orau Cymru. Roedd y digwyddiad dathlu yn gyfle i ddiolch i bartneriaid Cyrchfan Cynaliadwy Bannau Brycheiniog a busnesau preifat am…
Y 10 prif beth i’w gweld a’u gwneud yn Geoparc Fforest Fawr dros y Pasg
Wyddech chi fod rhan orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Geoparc yn ogystal? Mae Geoparc Byd-eang UNESCO Fforest Fawr yn ymestyn o Aberhonddu a’r Bannau Canolog yn y dwyrain yr holl ffordd i Landeilo yn y gorllewin. Dyma deisen haenog o greigiau sydd wedi cracio a chrimpio dan bwysau daearegol…
Awyrblymiwr Benywaidd Hynaf y Byd yn Ysbrydoli Aberhonddu
Yr wythnos diwethaf ymwelodd Dilys Price OBE, awyrblymiwr benywaidd hynaf y byd, ag Aberhonddu a rhoddodd araith ysbrydoledig yn y digwyddiad Heneiddio’n Egnïol yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu. Care and Repair a drefnodd y digwyddiad, oedd am ddim, mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Freedom Leisure a Chwaraeon Integredig…
Yr Adran Gynllunio yn arbed papur
Bydd Adran Gynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn troi’n fwy cynaliadwy ac yn cefnogi agenda electronig y Llywodraeth, drwy arbed papur o 1 Mai 2018. Drwy adolygu ein gweithdrefnau gwaith presennol ein nod yw darparu gwasanaeth sydd yn fwy effeithlon ac un sydd wedi ei moderneiddio. Bydd pob cais…
Gwelliannau i Lwybr Troed yn Y Gelli Gandryll
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi gwella dros gilomedr o lwybr sy’n cydredeg ag afon Wysg yn nhref Y Gelli Gandryll. Mae’r prosiect partneriaeth yn cynnwys gweithio gydag un o’r trigolion lleol, y Paralympydd Josie Pearson, Cyngor Tref Y Gelli Gandryll ac Ymddiriedolaeth Warren. Mae arwyneb y llwybr wedi…
Bannau Brycheiniog’ yn ennill gwobr ‘Cyrchfan Orau’ mewn Gwobrau Cenedlaethol
Dyfarnwyd Bannau Brycheiniog yn enillydd ‘Cyrchfan Orau’ Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2018, a gynhaliwyd yn y Celtic Manor. Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru, a drefnir gan Croeso Cymru, yn dathlu’r gorau o dwristiaeth Cymru drwy arddangos busnesau twristiaeth y wlad a chyraeddiadau’r diwydiant. Cyflwynwyd ‘Bannau Brycheiniog’ ar gyfer…
Awyrgludo ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Yr wythnos ddiwethaf cynhaliwyd cynllun awyrgludo ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fel rhan o’r gwaith sy’n cael ei wneud i helpu cynnal a gwarchod y dirwedd. Dechreuodd gwaith yn y Mynyddoedd Duon gydag oddeutu nawdeg tunnell o gerrig yn cael eu hawyrgludo o Fwlch yr Efengyl ac ar Hatterral Ridge.…