Dathliad Cyrchfan Orau yng Nghymru

Cynhaliodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Thwristiaeth Bannau Brycheiniog ddigwyddiad yn Theatr Brycheiniog i ddathlu llwyddiant diweddar y gyrchfan yn y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol. Pleidleisiwyd Bannau Brycheiniog fel Cyrchfan Orau Cymru.

Roedd y digwyddiad dathlu yn gyfle i ddiolch i bartneriaid Cyrchfan Cynaliadwy Bannau Brycheiniog a busnesau preifat am eu holl waith caled a’u hymdrechion. Crëwyd cyrchfan Bannau Brycheiniog trwy ddull integredig sy’n cynnwys gwaith partneriaeth rhwng 35 o gyrff sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Twristiaeth Bannau Brycheiniog a gweithio’n agos iawn gyda busnesau twristiaeth lleol.

Mae twristiaeth yn sylfaenol o fewn y Cynllun Corfforaethol ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae’n chwarae rhan arwyddocaol wrth ddatblygu economi gynaliadwy. Mae Bannau Brycheiniog yn croesawu dros 5 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn ac mae’r cynnyrch twristiaeth sydd ar gael yn amrywiol iawn, gan ddenu amrywiaeth o ymwelwyr, o rai sy’n frwdfrydig  iawn am yr awyr agored i fforwyr treftadaeth.

Gall busnesau ddefnyddio’r teitl mawreddog bellach i hyrwyddo ymhellach yr hyn y mae’r rhanbarth hwn yn ei gynnig, a gobeithio y bydd yn denu hyd yn oed mwy o ymwelwyr i gryfhau’r economi leol ymhellach. Bydd pecyn cymorth adnoddau’n cael ei lansio yn fuan, a fydd yn cynnwys logo Cyrchfan Orau y gall busnesau ei ddefnyddio ar eu gwefannau a sticer ffenestr.

Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae’r wobr hon yn dyst i’r ymrwymiad a’r penderfyniad a ddangoswyd gan y sefydliadau sy’n ffurfio Partneriaeth Cyrchfan Gynaliadwy Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Twristiaeth Bannau Brycheiniog, ein Awdurdodau Lleol, y busnesau lleol niferus ac amrywiol a’n Wardeniaid a’n rhwydwaith o wirfoddolwyr, sydd i gyd yn treulio amser diddiwedd ac yn ymdrechu’n galed i’n helpu i lunio’r dirwedd odidog yma. Mae creu ‘cyrchfan’ yn golygu  agwedd partneriaeth integredig ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi ei gyflawni ym Mannau Brycheiniog ac rydym yn eithriadol o falch o fod wedi ein dewis fel Cyrchfan Orau Cymru.”

Ychwanegodd Colin Evans, Cadeirydd Twristiaeth Bannau Brycheiniog;

“Rydym wrth ein boddau bod cyrchfan Bannau Brycheiniog wedi’i chydnabod fel Cyrchfan Orau Cymru! Mae’n ganlyniad i lawer o flynyddoedd o weithio mewn partneriaeth gyda Phartneriaeth Cyrchfan Cynaliadwy Bannau Brycheiniog a busnesau twristiaeth sydd oll wedi helpu i hyrwyddo ac arddangos Bannau Brycheiniog. Gobeithio y bydd y wobr ddwy flynedd hon yn denu mwy o bobl i’r rhanbarth er mwyn roi hwb pellach i’n heconomi leol. Mae Twristiaeth Bannau Brycheiniog yn cynllunio digwyddiad diwydiant ehangach ym mis Mai i barhau â’r dathliadau – rhoddir manylion yn fuan ”

 – DIWEDD –