Yr wythnos diwethaf ymwelodd Dilys Price OBE, awyrblymiwr benywaidd hynaf y byd, ag Aberhonddu a rhoddodd araith ysbrydoledig yn y digwyddiad Heneiddio’n Egnïol yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu.
Care and Repair a drefnodd y digwyddiad, oedd am ddim, mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Freedom Leisure a Chwaraeon Integredig Powys, ac fe’i cefnogwyd gan John Lewis. Roedd y digwyddiad yn dathlu iechyd da, bywyd hir a hapusrwydd ac roedd wedi’i anelu at aelodau hŷn o’r gymuned, yn eu hannog i barhau i fod yn egnïol ac yn rhoi’r cyfleoedd iddyn nhw allu gwneud hynny.
Roedd nifer yn bresennol yn y digwyddiad, gan gynnwys cynrychiolwyr o nifer o sefydliadau yn cynnig cyngor a gweithgareddau am ddim i bobl hŷn.
Dilys Price, sy’n wythdeg a phum mlwydd oed, oedd seren y digwyddiad a rhoddodd araith ysbrydoledig i dros wythdeg o bobl ynglŷn â’i champ aruthrol o ddod yr awyrblymiwr benywaidd hynaf yn y byd. Dywedodd yn falch, bod modd crynhoi ei hathroniaeth hi ynglŷn â bywyd mewn un arwyddair syml – “Pan fyddwch chi’n syrthio oddi ar eich beic, codwch a gwnewch ‘wheelies’”.
Siaradodd am bwysigrwydd “chwilio am hapusrwydd” a sut y dylem “ddeffro a dweud bod hwn yn fywyd da” bob bore. Mae ei stori’n anhygoel, ac mae wedi ei chynnwys yn y Guinness Book of World Records ac wedi teithio ar draws y byd. Mae hi hefyd wedi sefydlu elusen y Touch Trust Charity, sy’n canolbwyntio ar helpu pobl sydd ag anableddau a’u cynorthwyo i gysylltu â’r byd.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw’r amgylchedd perffaith ar gyfer gwella iechyd corfforol a iechyd meddwl. Mae gan y Parc Cenedlaethol nifer o lwybrau cerdded, ar gyfer pob gallu.
– DIWEDD –