Yn Geoparc Byd-eang UNESCO Fforest Fawr mae rhai o’r awyr nos mwyaf tywyll yn y byd. Mae Wythnos Ryngwladol Awyr Dywyll yn rhedeg tan ddydd Sul 7 Ebrill ac mae’r Geoparc yn annog pawb i ddarganfod y Parc ar ôl iddi dywyllu.
Mae Geoparc y Fforest Fawr wedi ei leoli o fewn Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, un o dair ar ddeg yn unig yn fyd-eang. Mae statws Gwarchodfa Awyr Dywyll yn wobr fawreddog a roddir i lond dwrn o gyrchfannau yn unig sydd ag awyr nos o ansawdd eithriadol. Yn y rhan yma o Gymru, mae’r llygredd golau mor isel fel y gallwch edrych i fyny a gweld sêr yn y trefi a’r pentrefi. Ond ar gyfer y mannau tywyll go iawn, ewch i hanner mwy gwyllt, gorllewinol, y Parc Cenedlaethol. Dyma ychydig o ffyrdd i ddathlu a mwynhau’r awyr nos.
Ewch allan
Mae mor hawdd â lapio’n gynnes, mynd allan ac edrych i fyny. Y cwbl sydd ei angen arnoch yw blanced, binocwlars ac awyr glir. Gall eich gardd hyd yn oed fod yn ddigon tywyll i syllu ar y sêr, neu ewch i un o’n mannau awyr dywyll. Rhai o’n ffefrynnau yn y Geoparc yw Cronfa Ddŵr Wysg, y llecyn tywyllaf yn y Parc Cenedlaethol cyfan. Ymhlith y mannau gorau eraill mae Pen Rhiw Ddu, neu unrhyw un o’r meysydd parcio oddi ar Ffordd Uchaf y Mynydd Du rhwng Llandeilo a Brynaman, Parc Gwledig Craig-y-nos yng Nghwm Tawe Uchaf a Mynydd Illtud ger Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus. Ar noson glir gallwch weld mor bell â’r Llwybr Llaethog.
Aros dros nos yn y Parc
Os nad ydych yn byw yn y Parc, trefnwch i aros dros nos
yn un o’n gwestai, llety gwely a brecwast neu wersylloedd a phrofi’r awyr nos
drosoch chi eich hun. Mae dros 50 o fusnesau yn y Parc yn Llysgenhadon Awyr
Dywyll, yn llawn gwybodaeth am yr awyr nos uwchben a sut y gallwch chi ei
fwynhau.
Pan fyddwch yma, chwiliwch am ddigwyddiadau syllu ar y sêr yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol gyda Dark Sky Wales, sydd â phlanetariwm aer ar gyfer nosweithiau cymylog.
Profi bywyd nos y Parc
Mae’r cyfnod rhwng y machlud a’r wawr yn amser prysur i fywyd gwyllt nosol yn y Parc. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn mae’r awyr nos yn brysur ag ystlumod, wrth iddyn nhw ddihuno o’u gaeafgwsg. Ond os bydd y tywydd yn troi’r oer unwaith eto byddan nhw’n mynd yn gysglyd (ac yn segur) unwaith eto ac yn aros am nosweithiau cynhesach! Adeg machlud mae Llyffantod Dafadennog yn dechrau eu mudo blynyddol, gan ddilyn yr un llwybr bob blwyddyn yn ôl i’w pyllau bridio. Edrychwch am ddraenogod wrth iddyn nhw ddeffro ar ôl gaeafgwsg, yn dibynnu ar nosweithiau tywyll i hela eu hysglyfaeth. Os ydych ar ddihun yn yr oriau mân, gwrandewch am sgrechfeydd y tylluanod nos a chyfarth llwynogod, ar draws y Parc.
Ymunwch â Geoparc y Fforest Fawr ar Facebook ac Instagram @geoparcyfforestfawr a dathlwch Wythnos Ryngwladol Awyr Dywyll drwy gydol yr wythnos.
DIWEDD