Daeth tymor y gwanwyn i ben gyda chlec i griw o blant ysgol a aeth i ymweld â gweddillion gwaith powdr gwn yn nyfnderoedd Bro’r Sgydau.
Ymunodd disgyblion nifer o ysgolion â Thîm Addysg Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar daith ffrwydrol o amgylch Gwaith Powdr Gwn Glyn-nedd sy’n swatio mewn ceunant hynafol ym Mhontneddfechan, sy’n gartref i rai o’r fflora a ffawna mwyaf prin yn y byd.
Y gwaith Powdr Gwn oedd un o gyflogwyr mwyaf yr ardal erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, ac roedd yn cynnal y diwydiant mwyngloddio llewyrchus yng nghymoedd y De.
Mae’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yn cydnabod bod yr Heneb Restredig hon yn rhan werthfawr o’r gymuned a bod angen ei gwarchod hi ynghyd â’r dirwedd sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig.
Cafodd prosiect i warchod, gwella a diogelu’r asedau hanfodol ei gymeradwyo a sicrhawyd grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ddatblygu cynlluniau i adfer gweddillion hynafol y safle, sydd wedi’i enwebu ar gyfer gwobr nodedig yr RCIS, gan sicrhau ei ddyfodol yn y tymor hir.
Mae Ruth Coulthard, Rheolwr y Prosiect, wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned leol, cyngor y dref, busnesau ac ysgolion am ddwy flynedd bron i adfywio’r safle.
“Mae gweddillion Gwaith Powdr Gwn Glyn-nedd” meddai, “sef un o’r ddau sydd ar ôl yng Nghymru, yn swatio yng ngheunant serth Mellte. Roedd y ffrwydron yn hanfodol i ddiwydiannau De Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Er bod yr adeiladau wedi’u dinistrio’n rhannol pan gaewyd y gwaith ym 1931, mae’r hyn sy’n weddill o’r safle’n destament i ddyfeisgarwch dyn a arweiniodd at un o’r gweithleoedd mwyaf anghyffredin ym Mhrydain.
“Ein gweledigaeth yw i bobl leol fedru ymfalchïo yn y safle unwaith eto ac i ymwelwyr fedru dysgu am ein hetifeddiaeth hanesyddol a’r lleoliad hyfryd ac unigryw hwn.”
Cychwynnodd taith disgyblion cyfnod allweddol pedwar yng nghwmni Eleri Thomas a Geraint Roberts, Swyddogion Addyg, a hynny mewn ystafell ddosbarth dros dro yn Neuadd Gymuned Pontneddfechan. Yno, cyflwynodd y swyddogion amrywiaeth o weithgareddau i danlinellu pwysigrwydd y gwaith a’i ran ym mywydau’r teuluoedd a’r cymunedau cyfagos.
Yna, aethant â’r disgyblion i’r awyr agored i’w dysgu am y ceunentydd cul a serth lle mae coed derw hynafol yn tyfu ynghyd â mwsogl, llysiau’r afu a rhedyn prin ac sy’n ffynnu yn amgylchedd llaith y cymoedd coediog hyn. Oherwydd hynny, mae’r ardal wedi’i dynodi’n Ardal Gadwraeth Arbennig, ac mae’n safle gwarchodedig sy’n cael blaenoriaeth Ewropeaidd ac sy’n gyrchfan rheolaidd i ymwelwyr sydd am gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.
Yn ôl Steve Gray, y Cyfarwyddwr Cyflawni: “Mae dyletswydd arnom i ddiogelu treftadaeth amrywiol y Parc Cenedlaethol. Bydd dros 150,000 yn ymweld â’r safle bob blwyddyn i werthfawrogi harddwch naturiol yr ardal a’r rhywogaethau – gan gynnwys y trochwr a’r dyfrgi – sydd i’w gweld yma. “Mae tîm y prosiect wedi cydbwyso’r gwaith o adfer y gweddillion er mwyn i genedlaethau’r dyfodol werthfawrogi’r peirianwaith a oedd ynghlwm wrth adeiladu’r gwaith ar y dirwedd, a’r gwaith o sicrhau na chaiff y fioamrywiaeth a byd natur ei niweidio. Mae’n allweddol addysgu ein pobl ifanc i sicrhau bod y Gwaith Powdr Gwn, a thirwedd, bywyd gwyllt a bioamrywiaeth Parc Cenedlaethol yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”