Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar ddydd Gwener 28 Gorffennaf ym Mhrif Swyddfeydd yr Awdurdod yn Aberhonddu. Cafodd y Cynghorydd Gareth Ratcliffe (Aelod a benodwyd gan Gyngor Sir Powys) ei ethol yn Gadeirydd, tra bod Mr Edward Evans (Aelod a benodwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyn-gadeirydd) wedi cael ei benodi’n Is-gadeirydd.
Gwnaed penodiadau allweddol eraill yn y cyfarfod, gan gynnwys Mr Julian Stedman yn cael ei ailethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy, gyda’r Cynghorydd Edwin Roderick yn cael ei ailethol yn Is-gadeirydd.
Dywedodd Cadeirydd newydd-etholedig Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y Cynghorydd Gareth Ratcliffe:
“Mae’n fraint ac yn anrhydedd ymgymryd â’r rôl bwysig hon ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio dros y deuddeng mis nesaf. Fy mlaenoriaethau ar gyfer y dyfodol yw gweithio gyda’n holl aelodau i gefnogi ein Prif Weithredwr, Julian Atkins, i ddarparu Parc Cenedlaethol sydd o fudd i’n trigolion, i’n hymwelwyr ac i Gymru. Wrth i ni symud ymlaen, edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth â’n Cynghorau Cymuned, Awdurdodau Lleol, sefydliadau partner a Llywodraethau Cenedlaethol. Ni all y gwaith y mae angen i ni ei wneud gael ei gyflawni gan gwpl o sefydliadau, ond mae angen ymdrech ar y cyd gan holl Aelodau, swyddogion, staff, gwirfoddolwyr a chymunedau’r Parc Cenedlaethol.”
Cafodd y Cynghorydd Ann Webb ei hailethol yn Gadeirydd Archwilio a Chraffu, gyda Mr Ian Rowett yn Is-gadeirydd. Bydd Ms Deborah Perkin yn parhau yn ei swydd fel Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, gyda’r Cynghorydd Karen Laurie-Parry yn Ddirprwy iddi.
Cadeirydd y Fforwm Polisi fydd Mr James Marsden, gyda’r Cynghorydd Graham Thomas yn cyflawni rôl yr Is-gadeirydd.
Dywedodd Julian Atkins, Prif Swyddog Gweithredol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:
“Hoffwn longyfarch pob un Aelod sydd wedi ei ethol/ailethol i’r swyddi pwysig hyn o fewn yr Awdurdod. Mae ein Parc Cenedlaethol yn wynebu cyfnod o newid ac ansicrwydd, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phawb a benodwyd dros y deuddeng mis nesaf er mwyn sicrhau bod ein Parc Cenedlaethol yn parhau i fod yn werthfawr ac yn gadarn.”
I wylio recordiad o’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ewch i https://breconbeacons.public-i.tv/core/portal/home Mae rhagor o fanylion ynghylch strwythur y pwyllgor a’i haelodau ar gael ar www.bannaubrycheiniog.org
-DIWEDD-