Ymwelwyr i Grughywel yn cael profiad pleserus gydag ystod o daflenni newydd am Ddiwrnodau Allan Bendigedig

I’w rhyddhau 12 Hydref 2011

Wedi’u lansio’n swyddogol ar 7 Hydref mewn pryd ar gyfer y gwyliau hanner tymor, bydd y taflenni newydd ar gael ledled ardal Crughywel a Mynydd Du y Parc Cenedlaethol, fel bydd gan ymwelwyr y wybodaeth maent ei hangen ar gyfer seibiant ffantastig yn yr hydref. 

Mae cyfres Diwrnodau Allan Bendigedig Crughywel yn darparu rhestr gynhwysfawr o syniadau er mwyn i ymwelwyr ddarganfod cestyll, llysoedd hynafol, gwarchodfeydd natur, siopau, camlesi, mynyddoedd, y gorffennol diwydiannol, lleoedd i fwyta ac mae gwinllan, hyd yn oed, i’w hychwanegu at y rhestr! Heb sôn am lu o weithgareddau i’w gwneud gyda’r teulu, gan gynnwys cerdded, pysgota, beicio, marchogaeth a merlota.

Bu Aelodau Twristiaeth Crughywel a’r Mynydd Du yn gweithio gyda Phrosiect Collabor8 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chroeso Cymru i lunio trydedd gyfres o daflenni “Diwrnodau Allan Bendigedig” i ddangos i ymwelwyr faint sydd i’w weld a’i wneud yng Nghrughywel ac o’i chwmpas.  Bellach mae taflenni Diwrnodau Allan Bendigedig ar gael ar gyfer Y Fenni, Talgarth a Chrughywel, ac mae cynlluniau am ragor ar gyfer Llanymddyfri, Y Gelli a Chwm Tawe.

Mae’r gyfres o daflenni wedi derbyn cymorth a chyllid hael gan Groeso Cymru a’r prosiect Collabor8 a ariennir gan Raglen ogledd-orllewin Ewrop ERDF Interreg IVB.

Dywedodd Nick Stewart, Swyddog Twristiaeth Gynaliadwy gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae taflenni Diwrnodau Allan Bendigedig Crughywel yn cyflwyno amrywiaeth o bethau i’w gwneud sy’n ymwneud ag ystod eang o chwaethau a grwpiau oedran. Yr hyn sy’n wahanol amdanynt yw bod y wybodaeth wedi’i chyflwyno fel teithlen awgrymedig, gyda phopeth sydd ar yr ymwelydd ei eisiau i gynllunio Diwrnod Allan Bendigedig. Drwy annog  busnesau twristiaeth yn ardal Crughywel a’r Mynydd Du ac o’i chwmpas i roi’r chwe awgrym hyn ar gyfer Diwrnodau Gwych allan  ar eu gwefannau rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr sy’n aros yn yr ardal yn cael mwy allan o bob dydd eu gwyliau neu seibiant. Hefyd efallai caiff ymwelwyr sy’n teithio trwy’r ardal eu hannog i aros ychydig yn hirach a’i fforio a’i gwerthfawrogi’n fwy. Os gallwn annog busnesau i roi’r taflenni hyn ar eu gwefannau, pan fydd pobl yn mynd i chwilio am leoedd i ymweld â nhw neu i fynd ar eu gwyliau, byddant yn gweld bod Crughywel yn lle gwych i ddod iddo, i aros ac i brofi ymdeimlad o leoliad go iawn. Dyma’r drydedd dref i lunio’r math hwn o daflenni a bydd ardaloedd eraill megis Llanymddyfri, Cwm Tawe a’r Gelli yn dilyn yn y misoedd i ddod.”

Dywedodd Pat James, perchennog busnes hunanarlwyo yng Nghrughywel: “Bydd y  teithlenni newydd hyn ar gyfer Crughywel yn ddefnyddiol iawn er mwyn i ymwelwyr ddarganfod faint sydd gan yr ardal hon i’w gynnig.  Yn bendant mae ardal y Mynydd Du yn un o emau mwyaf hardd y Parc Cenedlaethol ac mae’r teithlenni awgrymedig hyn yn berffaith ar gyfer pobl sydd eisiau gwneud rhywbeth gwahanol ar bob diwrnod o’u cyfnod aros yn ystod y gwyliau hanner tymor neu ar gyfer yr ymwelydd sydd â diwrnod yn rhydd i fforio’r ardal.”

Bellach mae taflenni Diwrnodau Allan Bendigedig Crughywel ar gael o Ganolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crughywel, dros 160 o fusnesau twristiaeth yng Nghrughywel a’r Mynydd Du ledled yr ardal neu gellir eu lawrlwytho fel PDFs yn barod ar gyfer dechrau’r gwyliau hanner tymor o’n gwefan www.breconbeacons.org 

I gael rhagor o wybodaeth ar y Prosiect Collabor8 cysylltwch â Nick Stewart ar 01874 620 490 neu anfonwch neges e-bost at  nick.stewart@breconbeacons.org 

-DIWEDD-