Gall cerddwyr sy’n awyddus i grwydro o gwmpas ardal Crucywel ddod o hyd i’r holl wybodaeth angenrheidiol diolch i ddau hysbysfwrdd newydd ar gyfer cerddwyr, sy’n gymorth i ymwelwyr sydd am grwydro’r dref gan droedio hen lwybrau a darganfod rhai newydd.
Trwy arian prosiect Cynghreiriau Gwledig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae grŵp Croeso i Gerddwyr Crucywel wedi gosod dau banel gwybodaeth yn Bullpit Meadow wrth Afon Wysg a thu allan i adeilad CRiC i dynnu sylw at y teithiau cerdded arbennig sydd ar gael o gwmpas Crucywel. Fel rhan o’r prosiect, comisiynwyd map newydd o’r dref sydd i’w weld yn llawlyfr newydd tref Crucywel, sef ‘Crickhowell – unique in any light’ – taflen ddefnyddiol sy’n helpu i dywys ymwelwyr o’r maes parcio i mewn i’r dref er mwyn iddyn nhw fwynhau cyfleoedd siopa unigryw Crucywel.
Erbyn hyn, gall Crucywel gynnig teithiau cerdded unigryw i ymwelwyr o bob oed a phob gallu a chafodd yr hysbysfyrddau newydd eu gosod yr un pryd â chyhoeddi’r ail rifyn o ‘Cracking Walks around Crickhowell’. Mae dau rifyn yn y gyfres – un ar gyfer teithiau cymedrol a lansiwyd y llynedd a’r un diweddaraf sy’n cynnwys teithiau egnïol ac anoddach a lansiwyd y mis diwethaf. Y gobaith yw y bydd y paneli newydd yn hyrwyddo siopa yn ogystal â cherdded ac yn annog ymwelwyr i’w defnyddio wrth gyrraedd y dref. Mae’r holl ddeunydd yn llawn o luniau trawiadol a mapiau o’r ardal, ynghyd â disgrifiad o’r llwybr, y pellterau, mannau o ddiddordeb a phethau i’w gweld ar hyd y ffordd.
Yn ôl Jan Morgan o CRiC: “Mae’r Ŵyl Gerdded yn wir wedi rhoi Crucywel ar y map fel lle i fynd i gerdded, ac mae’r hysbysfyrddau a’r llyfrynnau hyn yn galluogi ymwelwyr i fwynhau’r teithiau cerdded trwy gydol y flwyddyn. Mae’r cyfan yn hawdd i’w defnyddio ac yn rhoi’r holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer mwynhau taith ddiddorol yn yr ardal.”
Meddai Carol Williams, Swyddog Twf Twristiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Alla i ddim meddwl am well ffordd o ddysgu am ardal Crucywel. Mae poblogrwydd y llyfrau cerdded hyn ar gynnydd ac roeddem yn falch o’r cyfle o weithio gyda Cherddwyr Crucywel i ddatblygu’r… llwybrau cerdded gofalus sy’n gasgliad celfydd o gymeriad unigryw Crucywel, ac yn ysgogiad i gerddwyr fynd am dro a chael eu swyno gan y golygfeydd ysblennydd.”
Nododd Elsa Cleminson o Croeso i Gerddwyr: “Cerddwyr yw mwyafrif ein hymwelwyr ac maen nhw bob amser yn chwilio am lwybrau a chyfleoedd newydd i’w mwynhau. Aethom ati fel grŵp i drafod beth oedd ei angen yn yr ardal, a phenderfynwyd ar osod paneli a llyfrynnau cyfatebol sy’n adleisio’r pethau gorau sydd gennym i’w cynnig. Mae’n wych bod pobl yn gwerthfawrogi’r ddolen gyswllt rhwng y paneli a’r llyfrau – ers gosod y paneli mae gwerthiant y llyfrau ddengwaith yn fwy.”
-DIWEDD-