Heddiw, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lansio Siarter Ymwelwyr unigryw o’r enw “5 ffordd i garu Bannau Brycheiniog”. Gofynnwyd i fusnesau twristiaeth yn y Parc Cenedlaethol enwi’r pum peth sy’n peri’r pryder mwyaf iddynt o ran ymddygiad ymwelwyr. Yna, cafodd canlyniadau’r arolwg eu troi yn bum ffordd i garu’r Bannau gyda’r nod o helpu ymwelwyr i ofalu am ein Parc Cenedlaethol – trwy eu hannog i ddiogelu’r awyr dywyll, bwyta bwyd lleol, ailgylchu, defnyddio llai o’r car a chadw eu cŵn ar dennyn o gwmpas da byw.
Bydd y Siarter Ymwelwyr yn cael ei lansio mewn digwyddiad Llysgenhadon arbennig heddiw (7 Mai) yn Neuadd Buckland, ger Bwlch. Gyda chymorth prosiect Cynghreiriau Gwledig Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, nod y Siarter Ymwelwyr newydd yw annog ymwelwyr i ymddwyn mewn ffordd gynaliadwy pan fyddant ar wyliau yn y Parc Cenedlaethol. Bydd y neges yn cael ei chyfathrebu trwy daflen a ddosberthir ledled y Parc, cerdyn i fusnesau ei arddangos, arwyddion ar ddrysau ystafelloedd ymolchi, posteri y gellir eu personoli a thrwy’r we a chyfryngau cymdeithasol.
Yn ogystal â lansio’r Siarter Ymwelwyr, mae’r digwyddiad Llysgenhadon hefyd yn cynnwys dewis o bedwar gweithdy i gynrychiolwyr ar y thema bywyd gwyllt, cyflwyniad gan Rwydwaith Llysgenhadon Cymru Gyfan a Gŵyl Jazz Aberhonddu. Yn ogystal, cyflwynodd Julian Atkins, Cyfarwyddwr Rheoli Cefn Gwlad a Thir yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, dystysgrifau i’r 20 o Lysgenhadon newydd a enillodd eu statws Llysgennad, Geoparc ac Awyr Dywyll.
Meddai Andrew Williams, Swyddog Twristiaeth Gynaliadwy (Prosiect y Cynghreiriau Gwledig) Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Bydd y Siarter Ymwelwyr yn bwysig o ran annog ymwelwyr i ymddwyn mewn ffordd gynaliadwy a chyfrifol a’u haddysgu i helpu i gynnal a chadw’r Parc fel cyrchfan i ymweld ag ef am genedlaethau i ddod.”
Meddai Anna Heywood o Drover Cycles, sy’n aelod o Grŵp Twristiaeth y Gelli Gandryll: “Mae cynaliadwyedd cymdeithasol ac amgylcheddol yn rhan annatod o’n hathroniaeth yma yn Drover Cycles ac felly rydyn ni’n hynod falch bod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi lansio’r Siarter Ymwelwyr Cyfrifol. Rydyn ni’n credu y bydd yr adnodd defnyddiol hwn yn helpu ymwelwyr a busnesau i fod yn wyrddach a mwynhau’r rhanbarth anhygoel hwn!”
Meddai’r Cynghorydd Geraint Hopkins, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’n wych gweld bod yr adran dwristiaeth wedi ymgysylltu â busnesau lleol a datblygu canllaw defnyddiol i helpu i’w cefnogi a chodi ymwybyddiaeth ymwelwyr â’r Parc Cenedlaethol.”
Mae’r prosiect yn cynnwys ymgyrch cyfryngau cymdeithasol hefyd lle bydd busnesau ac ymwelwyr yn cael eu hannog i gofnodi eu hymddygiad cynaliadwy gan ddefnyddio’r hashnod #IloveBreconBeacons. Os ydych chi’n fusnes twristiaeth sydd â diddordeb yn y prosiect neu os hoffech chi ddefnyddio rhai o’r eitemau hyrwyddo uchod, ffoniwch Andrew Williams, Swyddog Twristiaeth Gynaliadwy, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ar 01874 620476 neu anfonwch e-bost at andrew.williams@beacons-npa.gov.uk Gallwch chi hefyd lawrlwytho’r adnoddau o http://www.beacons-npa.gov.uk/communities/tourism-new/visitorcharter (URL i’w gadarnhau)
I gael mwy o wybodaeth am brosiect y Cynghreiriau Gwledig, ewch i www.rural-alliances.eu Prosiect rhyngwladol a ariennir trwy raglen Interreg IVB Gogledd-orllewin Ewrop yr UE a chyda chymorth Llywodraeth Cymru yw Cynghreiriau Gwledig. Mae’n helpu busnesau a chymunedau i weithio gyda’i gilydd i wella bywiogrwydd gwledig.
-DIWEDD-