Heddiw, lansiodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog lwybr teithio newydd i feicwyr fel rhan o’i ddathliadau ar gyfer Wythnos y Parciau Cenedlaethol. Maria Leijerstam, Llysgennad Blwyddyn Antur Croeso Cymru sef y person cyntaf i feicio i Begwn y De, oedd un o’r rhai cyntaf a’r feicio ar ran o’r llwybr newydd.
Fe ymunodd grŵp o feicwyr lleol gyda Maria ar y daith. Roedd pawb yn teimlo’n gyffrous iawn am y llwybr newydd sy’n 56 milltir (90km) o hyd ar draws y parc. Mae’r daith yn cychwyn yn Llandeilo yn y gorllewin ac yn gorffen yn y Fenni yn y dwyrain. Mae yma gyfle heb ei ail i weld ar hyd y ffordd i weld rhai o olygfeydd mwyaf trawiadol y parc.
Yn ôl Mark Davis, perchennog llety hunanarlwyo Glanpant Bach ym mhentref Bwlch ac sydd hefyd yn un o Lysgenhadon y Parc Cenedlaethol yn ogystal â bod yn Arweinydd i’r Grŵp:
“Mae beicio’n mynd yn fwyfwy poblogaidd. Mae gan y Bannau gymaint i’w gynnig . Rwy’n mawr obeithio y bydd y llwybr yn denu mwy o feicwyr i ymweld â’r Parc Cenedlaethol. Mae ein busnes ni ddiddordeb arbennig mewn darparu ar gyfer beicwyr. Fe fyddwn ni’n hapus iawn i ddangos rhagoriaethau’r llwybr newydd hwn iddyn nhw ”.
Yn ôl Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol
“Alla i ddim meddwl am well ffordd o lansio Wythnos y Parciau Cenedlaethol na thrwy lansio llwybr beicio newydd ar draws y Parc – mae beicio ar draws y Bannau yn gymar gwych i lwybr cerdded Ffordd y Bannau. Gall y rhai mwyaf brwdfrydig ohonoch gerdded un ffordd a beicio nôl. Mae’r cyfan yn cynnig awyr iach ynghyd â thirwedd esmwyth ond amrywiol y Parc Cenedlaethol. Mae yma gymaint i gyfle ar gyfer pob math o weithgareddau yn yr awyr agored.”
Mae Maria, sydd wedi’i geni yn Aberdâr, yn un o’r rhai cyntaf i feicio i Begwn y De. Dyna i chi daith o 396 milltir ar draws meysydd iâ i gyrraedd y Pegwn. Yn ogystal â hyn, mae hi wedi rhedeg ar draws y Sahara a beicio ar draws haen o iâ ar Lyn Baikal yn Siberia. Maria yw sylfaenydd digwyddiadau’r Burn Series (www.burnseries.co.uk) a Chymru yw canolbwynt ei chanolfan hyfforddi ar gyfer ei theithiau rhyngwladol. Roedd Maria, wedi ei chyfareddu fodd bynnag gan ei thaith beic ar draws y Bannau.
“Mae cymeriad a natur y llwybr beicio ar draws y Bannau yn newid drwy’r amser. Roedd y rhan o Bontsenni i Aberhonddu yn gwbl arbennig – roedd mor dawel a heddychlon. Roedd yn fy atgoffa o’m taith ar draws Seland Newydd. Alla i ddim meddwl am well ffordd o weld y Bannau nag ar ddwy olwyn.”
I deuluoedd, mae’r rhan sy’n rhedeg o Aberhonddu i’r Fenni yn dilyn camlas hardd Mynwy a Brycheiniog. Dyma fan delfrydol i’r rhai sy’n beicio gyda phlant. Mae dewis arall i feicwyr mwy profiadol i barhau ar hyd y ffordd. Fe grëwyd y llwybr i fod o fewn cyrraedd i gyswllt rheilffordd ar bob pen i’r Llwybr. Mae modd lawr lwytho’r wybodaeth am y llwybr ar-lein. Mae’r daith wedi’i rhannu yn bum rhan hwylus. Ariannwyd y llwybr yn rhannol gan Croeso Cymru.
I lawrlwytho’r map, ewch i www.breconbeacons.org/cycleacrossthebeacons
-DIWEDD-