Daeth Sophie Howe ar ymweliad â’r Parc Cenedlaethol i weld yr egwyddorion datblygu cynaliadwy a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith. Hi yw un o Gomisiynwyr Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf y byd yn dilyn cyflwyniad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru y llynedd. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi croesawu’r cyfleoedd a’r heriau a gynigir gan y Ddeddf ac roedd yn bleser cael cyflwyno rhai astudiaethau achos i’r Comisiynydd.
Cafodd y Comisiynydd gyfle i weld Mind Aberhonddu ar waith yn rhandiroedd Aberhonddu lle mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy wedi bod yn cefnogi grŵp lleol o elusen iechyd meddwl Mind i fanteisio ar dyfu blodau, ffrwythau a llysiau i gefnogi datblygiad personol cadarnhaol.
Cyfarfu â Trudy Sedman, sef Cynghorydd Tref lleol o’r Gelli Gandryll sydd wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r gymuned leol ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol i gynhyrchu Cynllun Lle i’r Gelli Gandryll sy’n disgrifio sut hoffai’r gymuned weld eu tref a’u cymuned yn dod yn fwy cadarn yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae’r Awdurdod wedi bod yn arbrofi gyda defnyddio’r gêm ar-lein boblogaidd Minecraft i ymgysylltu gyda thrigolion iau yn y broses o gynllunio dyfodol y dref. Cafodd y Comisiynydd gyfle i weld y gwaith a wnaed i ddylunio’r Gelli Gandryll ym myd ar-lein Minecraft.
Cyfarfu’r Comisiynydd â Mark a Hilary Davies o fusnes arlwyo lleol Glanpant. Mae Mark a Hilary wedi derbyn hyfforddiant tridiau i ddod yn Llysgenhadon i’r Parc Cenedlaethol, a hynny’n eu galluogi i gynnig mwy fyth o wybodaeth leol i’w gwesteion.
Gwyliodd y Comisiynydd ffilm am dri phrosiect: Y prosiect Geocache sy’n hybu gweithgaredd corfforol ymhlith pobl ifanc, Buggycise sy’n gweithio gyda Mamau newydd ar ymarfer corff yn yr amgylchedd awyr agored, a Sgiliau ar Waith sy’n darparu lleoliadau cyflogedig i wardeniaid dan hyfforddiant gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd y Comisiynydd,
“Rwyf dwy ran o dair drwy fy ymrwymiad personol i ymweld â phob un o’r cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r egni a’r brwdfrydedd a ddangoswyd gan gymunedau yn y Parc Cenedlaethol wedi gwneud argraff fawr arnaf. Rwy’n awyddus iawn i weld ffocws ar brofiadau cadarnhaol ym mlynyddoedd cynnar bywydau pob un o’n plant ac mae’r Parciau Cenedlaethol yn gallu cynnig maes chwarae ac ystafell ddosbarth iddynt – mae’r Awdurdod wedi dangos fod ganddo ddiddordeb mewn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu’r syniadau hyn.
“Roedd pob un o’r prosiectau hyn yn unigryw ac mae gan bob un ohonynt elfennau y gallai cymunedau eraill yng Nghymru elwa arnynt. I fi, mae hyn yn dangos pam fod ar bob un o’n cyrff cyhoeddus angen y pum egwyddor o fewn y ddeddf i gynnal ffordd newydd o gydweithio, sydd wedi’i gwreiddio yn ein cymunedau, i sicrhau ein bod yn cynnal y buddiannau hirdymor i lesiant cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r manteision i iechyd a ddaw o ymgysylltu gydag amgylcheddau arbennig ein tri Pharc Cenedlaethol yn sylweddol iawn, ac mae eu gwarchod fel adnoddau i genedlaethau’r dyfodol yn rhan hanfodol o hyn.”
Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol,
“Gwnaeth egni a brwdfrydedd y Comisiynydd gryn argraff arnaf. Mae’r ffaith ei bod wedi derbyn ein gwahoddiad i ddod i weld sut ydym yn ymgysylltu gyda mesur Cenedlaethau’r Dyfodol yn dweud cyfrolau am ei phenderfyniad i sicrhau bod y ddeddfwriaeth arloesol hon yn dod â gwir fanteision i bobl Cymru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’i thîm ar gyflwyno rhai o’r syniadau allweddol ynghylch pwysigrwydd llesiant amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sy’n greiddiol i’r Ddeddf hon.”