Mae hanes Aberhonddu ym mrwydr Agincourt wedi dod yn fyw yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, ac mae’n coffáu’r cyfraniad pwysig wnaeth gwŷr Sir Frycheiniog at y frwydr enwog a ymladdwyd yn Ffrainc 600 mlynedd yn ôl. Drwy gyd-weithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae dehongliad cyffrous newydd wedi ei greu – cewch hyd yn oed weld Rhith-Saethydd o Agincourt yno.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o brosiect ehangach Etifeddiaeth Agincourt 600 Cymru, gyda chymorth Cronfa Goffáu Agincourt 600, i gofio hanes gwŷr lleol fu’n ymladd yn y frwydr, ac i ddangos arwyddocâd y cyfraniad sylweddol wnaeth y rhain i hanes Agincourt. Mae’r taflenni newydd sbon, a’r padlau-gwybodaeth llaw ar gael erbyn hyn yn yr Eglwys Gadeiriol, i ymwelwyr gael mynd ar daith eu hunain, a darganfod y straeon y tu ôl i’r mannau coffáu.
Dyna i chi ffenestr wydr lliw prydferth, fry uwchben llawr yr Eglwys Gadeiriol, sy’n coffáu Roger Vaughan, uchelwr Cymreig o Dretŵr, a fu farw ar faes y gad yn 1415. Yna’r garreg hogi, yr honnir iddi gael ei defnyddio i hogi saethau’r saethyddion yn y frwydr. Gall ymwelwyr hefyd weld enwau Saethyddion Aberhonddu a aeth i’r frwydr, ar gopi o indentur (cytundeb oedd yn rhestru’r dynion a’r bechgyn a anfonwyd i’r gad). Gellir hefyd wrando ar y rhith-saethydd, yn siarad am y frwydr sydd i ddod wrth iddo baratoi ei fwa a saeth.
Meddai Suzanna Jones, Swyddog Dehongli Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, “Chwaraeodd Aberhonddu ran allweddol ym Mrwydr Agincourt, ac mae hi’n un o wyth safle ar draws Sir Frycheiniog, Sir Fynwy a Fforest y Ddena, sy’n rhan o ‘Daith Agincourt Cymru’. Roedden ni am ddathlu’r ffaith hon drwy adrodd yr hanesion i bobl leol ac ymwelwyr, ac roedden ni wrth ein bodd yn cael cyfle i ddehongli’r casgliad sydd yma’n barod yn yr Eglwys Gadeiriol. Bydd pawb wrth eu bodd yn cwrdd â’r saethydd, sy’n dod yn fyw drwy ipad – yn enwedig y bobl ifanc!”
Ychwanegodd Deon Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, y Deon Shackerley, “Rydyn ni mor falch o fod yn ymwneud â’r prosiect hwn, a byddwn yn edrych ymlaen at groesawu mwy o ymwelwyr chwilfrydig sydd am ddarganfod mwy am yr Eglwys Gadeiriol ei hun, a’i chysylltiadau hanesyddol â brwydr Agincourt.”
-DIWEDD-