Rhoddodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog groeso i dri aelod newydd, sef, Ms Deborah Perkin, Mr James Marsden a Mr Julian Stedman. Croesawyd hwy gan Aelodau Presennol yr Awdurdod yng nghyfarfod y Parc Cenedlaethol ar 8 Ebrill, a byddan nhw’n awr yn parhau gyda’r cwrs sefydlu ar gyfer eu rôl ar gorff llywodraethol Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Bydd yr aelodau newydd yn cymryd lle Mrs Julie James a Mr Martin Buckle, ar derfyn eu tymor llawn, a Ms Carys Howell, a adawodd yn 2014 (ni chafwyd neb yn ei lle’r adeg honno). Byddant yn ymuno ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol, sy’n cynnwys 24 aelod sy’n gwneud yr holl benderfyniadau allweddol ynglŷn â chyllidebau a pholisïau. Byddant hefyd ar y Pwyllgor Cynllunio a Hawliau Tramwy.
Dewiswyd yr aelodau newydd gan banel ar ran Llywodraeth Cymru drwy gystadleuaeth agored, a dônt o ystod o gefndiroedd gwahanol – pob un yn dod â’i brofiad gwerthfawr i wneud cyfraniad yn ei rôl newydd:
Mae Ms Perkin yn wneuthurwr ffilmiau dogfen, sydd wedi ennill sawl gwobr. Gweithiodd i’r BBC am flynyddoedd mewn gwahanol swyddi, yn gynhyrchydd/gyfarwyddwr. Erbyn hyn, mae’n rheoli ei chwmni cynhyrchu ei hun. Mae Ms Perkin hefyd yn rhoi o’i hamser i wneud gwaith gwirfoddol ym myd addysg a chydraddoldeb. Mae gan Mr Marsden gymwysterau mewn Cynllunio Gwlad a Thref. Gweithiodd i Natural England ym maes rheoli tir ac amaeth-amgylchedd , ac mae ganddo ddiddordeb personol yng nghadwraeth y môr. Mae gan Mr Stedman o Grucywel gymwysterau mewn pensaernïaeth a chynllunio amgylcheddol, ac wedi gweithio fel pensaer/cynllunydd. Ers 2011, mae’n berchen, ac yn rhedeg busnes gwely a brecwast, ac yn un o Lysgenhadon Twristiaeth yr Awdurdod.
Dywedodd Melanie Doel, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, “Ar ran yr aelodau presennol, y staff, a minnau, buaswn yn hoffi estyn croeso i aelodau newydd yr Awdurdod. Mae ganddyn nhw rôl bwysig i’w chyflawni yn Awdurdod y Parc Cenedlaethol wrth wneud penderfyniadau. O’u cyfarfod cyntaf un, maen nhw wedi dangos eu brwdfrydedd a’u hymglymiad i’r dasg bwysig o amddiffyn y dirwedd unigryw hon.”
-DIWEDD-
Nodiadau i’r Golygyddion
Ffotograff © breconbeaconsnationalparkauthority
Capsiwn: Dirprwy Gadeirydd, Y Cynghorydd Glynog Davies (dde) gyda’r aelodau newydd (o’r chwith) Julian Stedman, James Marsden a Deborah Perkin.