Arian Chwarae Teg yn helpu dod â phlant Cwm Rhondda i gefn gwlad Cwm Tawe

Mae arian Chwarae Teg wedi rhoi cyfle i grŵp o blant Cwm Rhondda gael mynd i brofi cefn gwlad Cwm Tawe.

Disgyblion Ysgol Gynradd Penyrenglyn yn Nhreorci oedd y disgyblion blynyddoedd pump a chwech diweddaraf i elwa o’r cynllun Chwarae Teg, gan fynd i archwilio Parc Gwledig Craig y Nos fel rhan o’u pwnc dosbarth newydd ar afonydd.

Ymunodd Partneriaeth Parciau Cenedlaethol y DU a Forest Holidays y llynedd i lansio tri phrosiect sy’n cynnig cyfle i blant o gefndiroedd difreintiedig brofi ac archwilio cefn gwlad.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn elwa o’r cynllun Chwarae Teg sy’n cynnig cludiant am ddim i’r Parc Cenedlaethol i ysgolion gyda mwy na 20% o ddisgyblion yn derbyn prydau am ddim, ar gyfer ymweliadau addysgol. Ac mae ysgolion cymwys yn cael eu hannog i ymgeisio am arian cyn i’r cynllun ddod i ben ym mis Mawrth.

Dywedodd yr athrawes dosbarth, Amy Sprague, fod y plant a’r staff yn mwynhau dysgu mwy am ein rhwydweithiau afonydd yng Nghraig y Nos, er gwaethaf y gwynt a’r glaw. Dywedodd: “Rydym newydd ddechrau dysgu am afonydd felly roedd yr ymweliad hwn yn gyflwyniad braf iawn. Cawsant gymaint o hwyl yn mesur dyfnder yr afon a darganfod ble mae’n dechrau. Roedd cael y cymorth gyda’r costau cludiant yn ffordd arbennig o gefnogi’r ysgol i ymweld â Chraig y Nos. ”

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Ed Evans mai cost cludiant yn aml yw un o’r rhwystrau mwyaf i ysgolion, ac sy’n atal plant rhag mwynhau cefn gwlad.Dywedodd: “Yn 2017/18 fe wnaeth mwy na 500 o blant o 11 ysgol fwynhau amrywiaeth o weithgareddau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog diolch i gronfa Chwarae Teg. Rydym yn hynod ddiolchgar i Forest Holidays am dorri’r rhwystr trafnidiaeth a chefnogi mwy a mwy o blant i fwynhau cefn gwlad. ”

Mae gan ysgolion sydd â mwy na 20% o’r disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim hawl i gael arian Chwarae Teg i dalu costau cludiant i safleoedd APCBB ar gyfer gweithgareddau addysgol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â lora.davies@beacons-npa.gov.uk