Y Parc Cenedlaethol yn dymuno cael cerflun yn Ne Cymru

Mae’r chwilio wedi dechrau i ddod o hyd i artist i greu cerflun yn Ne Cymru, i ddangos i’r rhai sy’n teithio ar hyd yr A470 eu bod nhw wedi cyrraedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Gyda chyllid gan Croeso Cymru, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn chwilio am fynegiant o ddiddordeb gan artistiaid lleol i greu cynrychiolaeth weledol o ddiwylliant a threftadaeth Bannau Brycheiniog. Dylai’r darn roi’r argraff i deithwyr ar hyd yr A470 heb unrhyw amheuaeth eu bod nhw ym Mharc Cenedlaethol.

Mae’r chwilio am nodwedd groesawu, ychydig i’r gogledd o Gefn Coed y Cymer, yn un o’r prosiectau sy’n cael eu cynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fel rhan o prosiect Ffordd Cymru. Mae’r Awdurdod hefyd yn chwilio am fynegiant o ddiddordeb gan artist i helpu i ddylunio mainc dehongli ar gyfer pobl sy’n defnyddio culfan Craig y Fro.

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Julian Atkins, fod y 33,000 o bobl sy’n byw yn y cymunedau yn y Parc Cenedlaethol yn falch o’u diwylliant a’u treftadaeth gyfoethog.

“Rydym am ddathlu hyn,” meddai. “Dylai’r nodwedd groesawu greu argraff ar ymwelwyr a gwneud iddynt feddwl heb unrhyw amheuaeth eu bod wedi ein cyrraedd i. Ond mae’n hanfodol ei fod yn parchu’r dirwedd. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dirwedd fyw a gweithgar, sydd wedi cefnogi cymunedau am genedlaethau. Dylai’r nodweddion gweledol hyn helpu pobl i ddeall mwy am sut mae’r tirlun a’r cymunedau wedi gweithio ochr yn ochr am ganrifoedd. ”

Mae disgwyl i’r fainc gael ei ategu yng Nghraig y Fro gyda nodwedd tywodfaen arfaethedig a fydd â cherddi comisiwn arbennig gan Owen Sheers ac Ifor ap Glyn wedi’u naddu ar ei hwyneb.

Ychwanegodd Mr Atkins: “Y nod yw creu dwy nodwedd adnabyddus, ddeniadol, beiddgar ac sy’n hawdd eu hadnabod yn syth. Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gael y cyfle i weithio ar y prosiect cyffrous hwn a fydd o fudd pellgyrhaeddol i’n cymunedau a’n busnesau, ar gael ar ein gwefan. ”

Mynegwch eich diddordeb trwy ymweld â http://www.bannaubrycheiniog.org/yr-awdurdod/swyddi-gweigion cyn Chwefror 15fed. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Swyddog Prosiect Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Sian Shakespeare, drwy e-bostio sian.shakespear@beacons-npa.gov.uk