Mae perchnogion cŵn yn cael eu hannog i aros, gwylio a gwrando am dda byw ac adar sy’n nythu ar y ddaear wrth fynd â’u cŵn am dro yng nghefn gwlad.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn croesawu’r rhai sy’n ymddwyn yn gyfrifol pan fyddant yn mynd â’u cŵn am dro ac mae’n cynorthwyo ffermwyr drwy godi ymwybyddiaeth o achosion o aflonyddu ar ddefaid a’r niwed y gall hyn ei achosi i ddefaid ac ŵyn.
Gall aflonyddu ar ddefaid effeithio’n sylweddol ar dda byw a bywoliaeth ffermwyr ac mae’r Awdurdod yn annog perchnogion cŵn i wneud eu rhan drwy ofalu bod eu cŵn yn cael eu cadw ar dennyn byr rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf.
Dywedodd Ed Evans, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fod perchnogion cŵn sy’n cadw eu cŵn ar dennyn yn cynorthwyo’r holl ffermwyr yn y Parc Cenedlaethol sy’n croesawu pobl sydd am fwynhau cefn gwlad.
Dywedodd: “Mae mor bwysig nad yw cŵn yn poeni nac yn anafu defaid – mae bywoliaeth ffermwyr yn y fantol ac mae’r heddlu a’r ffermwyr yn rhybuddio’r cyhoedd y gallai cŵn sy’n cael eu dal yn aflonyddu ar ddefaid gael eu saethu.
“Nid oes neb am weld anifeiliaid anwes yn cael eu brifo. Os yw perchnogion cŵn yn aros, yn gwylio ac yn gwrando am dda byw ac adar sy’n nythu ar y ddaear pan fyddant yn mwynhau cefn gwlad, byddant yn cyfrannu mewn ffordd fechan a syml at warchod anifeiliaid a bywyd gwyllt.”
Mae’r Awdurdod hefyd yn gofyn i berchnogion cŵn gadw eu gerddi’n ddiogel rhag i’w cŵn ddianc a chrwydro ardaloedd cefn gwlad.
Dywedodd Steve Gray, Cyfarwyddwr Cyflenwi’r Awdurdod bod rhedeg a hela’n rhan o natur ci ond mae angen codi ymwybyddiaeth o’r niwed y gall anifail anwes chwareus ei achosi’n anfwriadol. “Ydym, rydym yn genedl sy’n caru cŵn, ac rydym am i bobl fedru mwynhau’r dirwedd yng nghwmni eu hanifeiliaid anwes,” meddai. “Rydym am i berchnogion cŵn gofio bod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dirwedd byw sy’n anadlu, a’i fod yn fan gwaith. Mae’r dirwedd yn cynnal ein ffermwyr ac yn creu amgylchiadau bridio i lu o adar sy’n nythu ar y ddaear. Gan fod y gwanwyn yn agosáu, mae’n bwysicach fyth eich bod yn cadw’ch cŵn dan reolaeth yng nghefn gwlad.”