MAE’R disgyblion cyntaf i fanteisio ar yr ystafell addysg sydd newydd ei hailwampio yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Aberhonddu wedi canmol y gwaith gweddnewid.
Treuliodd plant o Ysgol Gynradd Crugywel, un o ysgolion llysgennad Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y diwrnod gyda’r tîm addysg yn y ganolfan yn darganfod mwy am fythau a chwedlau’r ardal.
Cyfarfu Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Julian Atkins, â’r disgyblion, a roddodd ganmoliaeth fawr i’r ystafell.
“Pleser gwirioneddol fu cael croesawu un o’n hysgolion llysgennad a gweld drosof fi fy hun sut maent yn elwa o’r gwaith,” meddai ef. “Mae plant yn tueddu i’w dweud hi fel y mae, felly bu clywed cymaint o adborth ardderchog ganddynt yn hynod gadarnhaol.”
Llwyddodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i wella’r cyfleusterau yn Ystafell y Bannau ac ymgymryd â gwaith cynnal a chadw hanfodol arall ar ôl gwerthu’r byngalo ger canolfan yr ymwelwyr. Defnyddiwyd yr arian a gafwyd i adeiladu wal newydd, gosod llawr caled mwy cadarn i gymryd lle’r hen un, gosod goleuadau LED ynni effeithlon ac uwchraddio’r rhwydwaith trydanol.
Mae cynlluniau ar y gweill i wella’r cyfleoedd i ddysgu yng Nghanolfan yr Ymwelwyr ymhellach. Cafodd y cyllid o Croeso Cymru ei sicrhau gan y Rheolwr Masnachol, Wayne Lewis, i gyflwyno technoleg newydd a fydd yn dod â dysgu yn fyw.
Dywedodd: “Fel rhan o brosiect Ffordd Cymru, prosiect cenedlaethol a ariennir gan Croeso Cymru, rydym wedi sicrhau grant ar gyfer wal ryngweithiol, ddigidol. Bydd y dechnoleg yn helpu i wella profiad dysgu ein holl ymwelwyr o bob oedran a bydd yn dod â’r awyr agored dan do pan na fydd tywydd Cymru ar ei orau.”
Bu’r Swyddog Addysg, Geraint Roberts, wrth ei fodd wrth gael gwybod mai Ysgol Gynradd Crucywel a’r athrawes, Alison Weaver, a helpodd i ddatblygu cynllun Ysgolion Llysgennad y Parc Cenedlaethol gyda’r tîm addysg, fyddai’r cyntaf i gael profiad o Ystafell y Bannau.
Dywedodd: “Mae’r cwrs yn agor drysau i fyd anhygoel mythau a chwedlau ein Parc Cenedlaethol. Rydym yn ffodus fod gennym straeon diddorol iawn yn gysylltiedig â’r dirwedd, ac fel swyddogion addysg, rydym yn mwynhau eu rhannu â’n hymwelwyr ifanc yn fawr iawn.
“Cafodd y plant gyfle i glywed hanes Morwyn Llyn y Fan Fach, chwarae hen offerynnau Cymreig a dawnsio wrth fwynhau’r stori. Helpom nhw i adrodd yr hanes gan ddefnyddio bwrdd stori, yn ogystal â chreu ffyn stori gan ddefnyddio deunyddiau naturiol cyn mynd allan i’r awyr agored.”
Mae ysgolion llysgennad ein parc cenedlaethol yn annog athrawon i fanteisio ar yr awyr agored, gan gynnal gwersi trawsgwricwlaidd ar dir yr ysgol, yn yr ardal leol neu yn y parc cenedlaethol ehangach. Maent yn rhoi profiadau a hyder i’r disgyblion yn yr awyr agored, a fydd yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant yn yr hirdymor. Mae’r cynllun yn agored i bob ysgol. I gael gwybod mwy, cysylltwch ag educationemail@beacons-npa.gov.uk neu gwyliwch y ffilm fer ar ein gwefan http://www.bannaubrycheiniog.org/dysgu/