Llysgenhadon Mynyddoedd Duon

Mae llysgenhadon brwdfrydig yn helpu i roi prosiect ar waith yn y Mynyddoedd Duon i ddiogelu, gwella a chyfoethogi cefn gwlad i bobl o bob cefndir ei fwynhau.

Erbyn diwedd sesiwn olaf rhaglen hyfforddi Llysgenhadon y Mynydd a’r Rhostir a gyflwynir gan Bartneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon a, roedd pawb yn awyddus iawn i fwrw ymlaen â syniadau i ddiogelu tirwedd yr ardal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Fel rhan o’r rhaglen hyfforddi Llysgenhadon, daeth nifer fawr o fusnesau twristiaeth ynghyd mewn tair sesiwn i’w helpu nhw i ddeall yr heriau sy’n wynebu pawb sy’n rhan o’r gwaith o ddiogelu’r ardal fynyddig hon.

Fel rhan o’r bartneriaeth, trefnwyd i’r llysgenhadon gwrdd â staff y prosiect, tirfeddianwyr a phorwyr lleol, er mwyn iddynt gael dealltwriaeth well o’r problemau sydd ynghlwm wrth reoli’r tir.

Mae Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon (y Bartneriaeth) yn rhoi prosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy, gwerth £1miliwn, ar waith ar hyn o bryd, a hynny drwy Gymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020,  a ariennir drwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae pawb sydd ynghlwm wrth y gwaith o reoli’r Mynydd Du wedi bod yn rhan o’r prosiect, gan gynnwys tirfeddianwyr a phorwyr lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a Natural England.

Daeth Gweinyddwr Prosiect y Bartneriaeth, Dr Louise Moon, i’r sesiynau a gefnogwyd ac a gyflwynwyd gan Dîm Twristiaeth Gynaliadwy’r Parc Cenedlaethol a Gareth Kiddie Associates, ymgynghoriaeth amlddisgyblaeth sy’n gweithio gyda chymunedau ac ar eu rhan.

“Bydd yr adborth a gawsom yn helpu, yn ystod blwyddyn olaf y prosiect, i ddatblygu syniadau ar gyfer rheoli’r modd y defnyddir y tir,” meddai Dr Moon. “Roedd y rhai a ymunodd â ni’n dweud bod y porwyr a’r tirfeddianwyr wedi rhoi darlun clir o’r anawsterau a’r sefyllfaoedd gwahanol roeddent yn eu hwynebu. Roeddent yn gallu cydymdeimlo’n well â nhw gan sylweddoli mai’r un nod oedd gan bawb, sef diogelu, gwella a chyfoethogi tirwedd y Mynydd Du, er budd y rhai sy’n byw ac yn gweithio yma.” 

Cynhaliwyd y rhaglen Llysgenhadon dros gyfnod o nifer o ddyddiau, a daeth siaradwyr o Cadw, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r Bartneriaeth i drafod pynciau fel safleoedd o bwysigrwydd archeolegol a hanesyddol, daeareg a bioamrywiaeth y mynydd ac effaith twristiaeth ar ddefnydd tir.

Trefnwyd ymweliad â dau safle, y naill i fynydd Crug Hywel a’r naill i fferm leol, lle dysgodd y llysgenhadon am ddulliau o reoli rhedyn, adfer mawndir, rheoli tir pori a’r ucheldir, a chawsant ymweld hefyd ag ardaloedd nad oeddent wedi ymweld â nhw o’r blaen.

Dywedodd Phil Stocker, Cadeirydd y Bartneriaeth, fod y rhaglen llysgenhadon yn helpu i roi adnoddau a gwybodaeth i fusnesau lleol i’w galluogi i drosglwyddo negeseuon am nodweddion arbennig y Mynydd Du a’r hyn y gall ymwelwyr ei wneud i’n helpu ni i ofalu am yr ardal i bawb ei mwynhau.  

“Dim ond drwy gydweithredu y gallwn sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion y porwyr a’r tirfeddianwyr, busnesau ymwelwyr a thirfeddianwyr, gan hefyd ddiogelu’r dirwedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Drwy ymwneud â busnesau lleol, mae’r rhaglen llysgenhadon yn helpu’r Bartneriaeth i feithrin dealltwriaeth well o’r cymunedau, yr amgylchfyd a’r economïau sydd wrth wraidd y math hwn o dirwedd, sy’n denu cynifer o ymwelwyr.  

“Yn y pen draw, yr un nod sydd gennym, sef hyrwyddo’r ardal fel cyrchfan, gan ddiogelu a gwella’r Mynydd Du hefyd er lles y rhai sy’n byw ac yn gweithio yma.” I gael rhagor o wybodaeth am y Bartneriaeth, cysylltwch â Dr Louise Moon louise.moon@beacons-npa.gov.uk