Mae Maer Tref Aberhonddu yn annog pobl hŷn i fynd ati i gadw’n heini drwy gymryd rhan mewn teithiau cerdded tywys am ddim yn y Parc Cenedlaethol.
Ymunodd Ann Mathias ag Ilona Carati ac Alex Norman, o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, am un o deithiau cerdded tywys y prosiect Heneiddio’n Egnïol ar hyd Camlas Aberhonddu.
Mae’r Parc Cenedlaethol wedi sicrhau grantiau gan Chwaraeon Cymru a Chronfa Datblygu Cynaliadwy APCBB i ddarparu rhaglen o deithiau cerdded tywys sydd wedi eu teilwra i ffitrwydd a gallu penodol.
Dywedodd Ilona Carati, Arweinydd Gweithgareddau, mai nod y prosiect yw annog pobl hŷn
(50+) i symud, mwynhau’r awyr agored a chwmni eu cyd-gerddwyr, a gwella eu hiechyd a lles.
“Rydyn ni wedi trefnu teithiau cerdded yn Aberhonddu, Ystradgynlais, Y Gelli a’r Fenni,” meddai Ilona. “Roedd yn bleser croesawu Maer Mathias ar daith gerdded yn Aberhonddu yr wythnos ddiwethaf er mwyn helpu tynnu sylw at fuddion cerdded yng nghefn gwlad.”
Caiff y teithiau cerdded eu cynnal bob dydd Llun a dydd Gwener, maen nhw wedi eu teilwra i gyflymder a ffitrwydd y cerddwyr sy’n cymryd rhan ac mae croeso i unigolion yn ogystal â grwpiau cymunedol. Cysylltwch ag Ilona Carati 07854 997561 neu Alex Norman 07854 997579 neu e-bostiwch activeageing@beacons-npa.gov.uk
Dywedodd Maer Mathias “nid oes raid gweithio’n rhy galed er mwyn mwynhau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.”
Cynhelir y teithiau cerdded nesaf o Aberhonddu ddydd Gwener 28 Mehefin o Theatr Brycheiniog am 2pm a dydd Llun 1 Gorffennaf o Theatr Brycheiniog am 2pm