Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnal Diwrnod Treftadaeth
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gwahodd y cyhoedd i ymuno â’i Ddiwrnod Treftadaeth, ddydd Sadwrn Hydref 14. Bydd y Diwrnod Treftadaeth yn dathlu’r gwaith a wnaed gan Awdurdod y Parc a’i bartneriaid i hyrwyddo rheolaeth a gwarchodaeth yr Amgylchedd Hanesyddol er budd y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r…
Disgyblion ysgol yn Aberhonddu yn arwain ymgyrch i fynd i’r afael â llygredd afonydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Fe wnaeth disgyblion o Ysgol Iau Mount Street yn Aberhonddu nodi Diwrnod Afonydd y Byd yr wythnos ddiwethaf (24 Medi) gydag addewid i garu a gofalu am afonydd Wysg a Gwy — sy’n wynebu argyfwng ansawdd dŵr. Mae’r addewid dan arweiniad Clwb Eco yr ysgol, sydd wedi ymuno â Pharc…
Mynegwch Eich Barn Ynghylch Dyfodol Crughywel
Nôl ym mis Mehefin eleni, cychwynnodd Cyngor Tref Crughywel, mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y broses o ddatblygu Cynllun Lle ac erbyn hyn mae’n galw ar drigolion yr ardal, busnesau lleol a grwpiau cymunedol i fynegi eu barn ynghylch eu profiadau hwythau o’r dref. Bydd yr ymgynghoriad yn…
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn disgleirio’n llachar yn yr Ŵyl Awyr Dywyll flynyddol
Bydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd yn enwog am ei awyr dywyll gyda’r hwyr ac sydd yn Warchodfa Awyr Dywyll ddynodedig yn cyfareddu seryddwyr a naturiaethwyr unwaith yn rhagor yn yr Ŵyl Awyr Dywyll a fydd yn cael ei chynnal Ddydd Sadwrn, 23 Medi. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mewn…