Darganfod mwy am ffermio ar Sul Fferm Agored

Ond wrth gwrs, mae’r ddiwrnod llawn hwyl i bawb – nid oes yn rhaid i chi fod yn ffermwr i ddod a mwynhau’r hyn sy’n digwydd ar Sul Fferm Agored. Os hoffech wybod mwy am fod yn gynaliadwy neu os hoffech weld ceffylau’n helpu i gwympo coed, neu os ydych chi eisiau mynd â’r teulu am daith gerdded hyfryd ger adfeilion priordy’r 12fed ganrif, bydd digon i’ch ysbrydoli! Bydd ar agor o 10:30am tan 4:30pm (mynediad olaf am 3:00pm). Mae diwrnod allan hwn sy’n ddiwrnod addysgiadol, llawn gweithgareddau, yn cynnig cyfle gwych i deuluoedd weld yr hyn sy’n digwydd yn y cefndir yn Court Ffarm Llanddewi Nant Hodni, a chyfarfod â pherchnogion y fferm a staff y Parc Cenedlaethol yn y dirwedd syfrdanol sy’n amgylchynu adfeilion sanctaidd Priordy Llanddewi Nant Hodni. 

Wedi’i drefnu fel rhan o Sul Fferm Agored ac Wythnos Bioamrywiaeth Cymru, bydd Court Ffarm Llanddewi Nant Hodni yn dangos eu hymrwymiad i gefn gwlad ac yn arddangos sut mae’r fferm yn cyfuno ffermio mynydd traddodiadol â rheoli tirwedd, bioamrywiaeth, ac ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n ymweld. Gyda theithiau ar dractor o’r fferm i’r coetir, bydd teuluoedd yn cael profiad o amrywiaeth eang o weithgareddau fferm. Bydd Jim Beavan o Lambing Live, hefyd wrth law i roi peth cyngor gwych ac arddangosiadau gyda’r defaid, gan gynnwys awgrymiadau da ar gneifio.

Un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd y llynedd oedd yr arddangosiadau ceffylau gwedd a thynnu coed yn y coetir ger y fferm. Gall ymwelwyr edmygu ceffyl Ardennes hardd yn gwneud y math o waith yr oedd ei gyndadau’n cael ei bridio ar ei gyfer – cael pren o goetir cadwraeth. Mae coetir trwchus a llethrau serth yn ei gwneud hi bron yn amhosibl defnyddio tractor, ond gall ceffyl gwedd gyrraedd y lleoedd na all technoleg fodern.

P’un ai eich bod chi eisiau darganfod mwy am y cyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer ffermio, cydbwyso cynhyrchu bwyd, storio carbon, cynhyrchu ynni amgen, ac arbed dŵr, neu yr hoffech gyfarfod â’r ffermwr, Colin Passmore a staff y Parc Cenedlaethol i siarad am eu gwaith gyda ffermwyr eraill yn yr ardal – mae hwn yn ddiwrnod perffaith ar gyfer y teulu cyfan.

Dywedodd perchennog Court Farm Llanddewi Nant Hodni, Colin Passmore:  “Dyma’r ail flwyddyn yn olynol rydym wedi cynnal Sul Fferm Agored ar ein fferm deuluol, ac rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod â chymaint o bobl ag sy’n bosibl sydd â diddordeb mewn ffermio fel y gallwn ateb eu cwestiynau, a gobeithio rhoi peth cyngor iddyn nhw. Rydym yn gobeithio y bydd yn ddiwrnod addysgol, llawn hwyl i bawb.”

Dywedodd Mrs Margaret Underwood, Aelod a Hyrwyddwr Bioamrywiaeth ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Rydym ni gyd yn rhan o fioamrywiaeth; mae angen i ni edrych ar ei ôl i oroesi. Mae Wythnos Bioamrywiaeth Cymru yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr y Parc Cenedlaethol ac rydym yn falch o fod yn gweithio’n agos â Court Farm Llanddewi Nant Hodni ar eu hail Sul Fferm Agored. Bydd ymwelwyr yn cael cyfle gwych i ddarganfod mwy am y rôl hanfodol mae bioamrywiaeth yn ei chwarae yn ein bywydau pob dydd, ein cymunedau ffermio, a darganfod sut gallan nhw hefyd annog bioamrywiaeth yn eu cartrefi a’u gerddi eu hunain, a lleihau ei hôl troed carbon.

“Nid yn unig fyddwch chi’n gallu holi perchnogion Court Farm Llanddewi Nant Hodni am y gwaith maen nhw’n ei wneud, ond bydd staff y Parc Cenedlaethol wrth law i adael i bobl wybod sut rydym ni’n mynd i’r afael â’r materion bioamrywiaeth mawr rydym yn eu hwynebu o ran rheoli tir, cadwraeth a chynllunio.”

Gorffennwch y diwrnod gyda barbeciw blasus o fyrgers cig oen wedi’u magu adref, byrgers cig eidion a selsig, a fydd yn cael eu gwerthu trwy gydol y dydd. Bydd bwyd ar gael hefyd yng Ngwesty’r Priory, Gwesty’r Half Moon ac Arlwyo Treats, gerllaw. Mae mynediad yn rhad ac am ddim. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01873 890359 neu ewch i www.farmsunday.org 

Court Farm Llanddewi Nant Hodni, Llanddewi Nant Hodni, Y Fenni, Sir Fynwy,  NP7 7NN

-DIWEDD-

Lluniau:  Hawlfraint Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

NODIADAU I OLYGYDDION

Mae Sul Fferm Agored yn ddigwyddiad blynyddol sy’n rhoi cyfle i bawb gyfarfod â’r ffermwyr sy’n tyfu eu bwyd, ac sy’n gofalu am gefn gwlad. Wedi’i drefnu gan LEAF (Cysylltu’r Amgylchedd a Ffermio) mae’n elwa o gymorth hael traws ddiwydiant. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.farmsunday.org