Ymladd troseddau tanau gwyllt o’r awyr

Mae Heddlu Dyfed Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn anelu’n uchel wrth geisio mynd i’r afael â throseddau tân yn y Parc Cenedlaethol. Bydd golygfeydd godidog i’w gweld yn nes ymlaen heddiw, wrth i hofrennydd Heddlu Dyfed Powys hedfan uwch ben yr ardaloedd a ddifrodwyd gan danau yn ddiweddar er mwyn cymryd lluniau delweddau thermol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Gyda bron i 2000 erw o dir comin a mawnog wedi cael eu difrodi’n ddifrifol gan dân, y mae Wardeniaid y Parc Gwledig yn honni mai dyma’r tân rhostir gwaethaf ers 30 mlynedd, bydd lluniau thermol o leiaf yn gallu helpu Wardeniaid yn y broses adfer ac asesu p’un a oes unrhyw fawnog yn dal i fod yn llosgi o dan y pridd.

Dywedodd yr Arolygydd Ian Richards, o Heddlu Dyfed Powys ei bod yn bwysig i bob Awdurdod Lleol ymuno â’i gilydd i frwydro yn erbyn tanau a throseddau tanau. “Mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio yn ystod y misoedd nesaf i geisio rhwystro troseddau tanau yn yr ardal brydferth hon. Rydyn ni wedi wynebu tanau mawr iawn yn ystod y misoedd diwethaf ac rydyn ni’n parhau i ymchwilio i ganfod beth allai fod wedi’u hachosi. Mae cydweithio yn hanfodol, nid yn unig er lles ein trigolion a’n hymwelwyr, ond hefyd i’r bywyd gwyllt sy’n byw yn yr ardal hon. Y gobaith yw y bydd ein cymorth yn helpu’r Parc Cenedlaethol i adfer yr amgylchedd hwn sydd wedi’i ddifrodi yn ôl i’w brydferthwch blaenorol.”

Dywedodd John Cook, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fod brwydro yn erbyn tanau yn ymdrech amlbartneriaeth. Gyda’r tân mwyaf diweddar, ger Trap, Llandeilo, galwyd am gymorth Milwyr Traed Cymru i helpu i fynd i’r afael â’r fflamau oherwydd y tir heriol.

Dywedodd:  “Rydyn ni’n wynebu misoedd heriol yn yr haf felly mae cydweithrediad a chymorth sefydliadau fel Awdurdod Heddlu Dyfed Powys yn eithriadol o bwysig. Gwyddom o brofiad personol y gall tanau gwyllt fynd allan o reolaeth yn gyflym iawn ac mae angen llawer o adnoddau i fynd i’r afael â nhw. Mae cael cymorth Heddlu Dyfed Powys i frwydro yn erbyn y troseddau tanau hyn a helpu gyda’r broses adfer yn hanfodol. Gyda’u cymorth byddwn yn parhau i fonitro’r safleoedd anghysbell hyn yn ystod y misoedd nesaf, a ddylai atal y rhai sy’n gyfrifol am y difrod.

“Bydd y ffotograffau thermol o’r fawnog yn ein helpu i ddeall graddau’r difrod ac yn sgil hynny gallwn fesur beth fydd yr effeithiau hirdymor. Rydyn ni’n gwybod y bydd yn cymryd blynyddoedd i adfer y tir yn llawn. Bydd ein Wardeniaid yn parhau i gyhoeddi rhybuddion tân yn ystod yr wythnosau nesaf ac rydyn ni’n annog pobl i fod yn wyliadwrus a bod yn gyfrifol yn ystod y tywydd cynnes, sych.”

Anogir pobl i beidio â chynnau barbeciws na thanau mewn mannau agored yng nghefn gwlad, a pheidio â chynnau llusernau Tsieineaidd, a meddwl am y ffordd orau o gael gwared ar fonion sigaréts, tanwyr nwy, poteli gwydr a matsis. Os bydd unrhyw un yn gweld tân neu’n gweld rhywun yn ymddwyn yn anghyfrifol, dylent ffonio’r gwasanaeth tân ar unwaith ar 999 er mwyn iddyn nhw gymryd y camau priodol.

Mae Indecs Difrifoldeb Tân Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn parhau i fod yn ‘Uchel’ ac yn ‘Eithriadol’.

-DIWEDD-