Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – ar y llwybr cywir i ddyfodol glanach

Dyfarnwyd statws ‘Cwmni Go Ultra Low’ i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, oherwydd ei fod wedi ychwanegu car trydan i’w fflyd. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn falch i fod yn un o’r rhai cyntaf i dderbyn y statws sy’n cydnabod cymwysterau cerbydau gwyrdd prif sefydliadau’r DU sy’n cynnwys Trafnidiaeth i Lundain ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae’r fenter, a gafodd ei lansio’n ddiweddar, yn cydnabod busnesau sy’n defnyddio cerbydau trydan (EV) fel rhan o gynllun newydd Go Ultra Low, sy’n cael ei redeg gan y llywodraeth a’r diwydiant ceir.

Yn gynharach eleni ymunodd y BMW i3 â’r fflyd fechan o geir y gellir eu hurio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yn barod gwelwyd gostyngiad yng nghyfartaledd cyfanswm allyriad CO2 o’r fflyd fechan sydd ymhell o dan y meincnod cyfredol o 100g/km o CO2, gan helpu i leihau’r allyriadau ar draws y fflyd.

Mae gan y car ‘plygio-mewn’ amrediad o hyd at 100 milltir, sy’n berffaith i’w ddefnyddio o fewn y Parc Cenedlaethol a’r cyffiniau. BMW (un o bartneriaid y cynllun Go Ultra Low), fu’n noddi ei graffigwaith nodedig sy’n cynnwys ffotograffiaeth o’r Bannau Canolog. Mae siâp y car yn gweddu’n berffaith â thirlun nodedig ac amlycaf Bannau Brycheiniog gyda phroffil o Ben y Fan, Corn Du a Chribyn.

Dywedodd Kevin Booker sy’n rheoli cronfa geir Awdurdod y Parc Cenedlaethol, “Mae sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat sydd eisoes yn defnyddio ceir trydan neu sy’n cynnig ceir i’w gweithwyr fel ceir cwmni, yn gymwys ar gyfer statws Cwmni Go Ultra Low, ar yr amod bod 5% o’i fflyd cerbydau yn rhai trydan erbyn 2020. Rydym wedi ymrwymo i newid mwy o fflyd cerbydau’r Parc Cenedlaethol i rai trydan dros y pum mlynedd nesaf, gyda’r un nesaf yn Ebrill 2017.”

Nododd Ian Rowat, Aelod Hyrwyddo Bioamrywiaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol, “Yma yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog rydym yn croesawu ychwanegiad cerbyd trydan newydd. Mae’r Parc Cenedlaethol yn cwmpasu 520 milltir sgwâr dros dirwedd amrywiol. Mae natur ein gwaith yn golygu bod defnyddio cerbydau yn anochel a trwy ddefnyddio car trydan rydym yn lleihau ein hallyriadau CO2, gan wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd rydym yn gofalu amdani.”

Dywedodd Poppy Welch, Pennaeth Go Ultra Low, “Rydym eisiau annog pob sefydliad yn y DU i ddilyn esiampl Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a chynnig i’w gweithwyr y cyfle i yrru cerbyd trydan. Nid yn unig maen nhw’n hyrwyddo gyrru glanach, ond mae yna hefyd fuddion byr a hir dymor i gwmnïau a’u gweithwyr eu mwynhau. Mae amrywiaeth o gerbydau ar gael gyda photensial arbed arian, ac felly mae’n ddewis realistig a buddiol i sefydliadau bach a mawr.”

DIWEDD