Diwrnod Agored i Wirfoddolwr y Gweithfeydd Powdr Gwn

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn trefnu ‘ Diwrnod Agored i Wirfoddolwyr  y Gweithfeydd Powdr Gwn’ yn Neuadd y Pentref ym Mhontneddfechan ar ddydd Sadwrn 10 Mawrth o 11yb hyd at 3yp. Maent yn recriwtio gwirfoddolwyr i helpu gyda phrosiect newydd y Gweithfeydd Powdwr Gwn sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae gwahoddiad i unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o’r prosiect.

Mae olion y Gweithfeydd Powdwr Gwn yng Nglyn-nedd yn un o’r unig ddau yng Nghymru ac roedd y cynnyrch a gynhyrchwyd yno yn hanfodol i’r twf diwydiannol yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wrthi’n rhoi prosiect Cronfa Treftadaeth y Loteri mewn grym a fydd yn diogelu dyfodol y safle, gwarchod yr adeiladau a dod â’r cyfan yn ôl yn fyw trwy ddehongliadau.

Y gobaith yw recriwtio gwirfoddolwyr a byddant ar gael yn Neuadd y Pentref i ddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau y gallai’r gwirfoddolwyr gymryd rhan ynddynt. Gall gwirfoddolwyr ddewis gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, gan ganolbwyntio ar ecoleg, hanes, cadwraeth adeiladau neu hyd yn oed ddod yn aelod o’n tîm o wardeniaid gwirfoddol.

Darperir arweiniad a hyfforddiant llawn ar gyfer pob gweithgaredd ar gyfer unrhyw wirfoddolwr. Mae’n gyfle gwych i bobl ddefnyddio’u sgiliau cyfredol, dysgu sgiliau newydd a gweithio o fewn amgylchedd awyr agored hyfryd, ac mae’r Awdurdod yn awyddus iawn i annog cymaint o bobl â phosib i gymryd rhan.

Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; “Rydym bob amser yn ddiolchgar am unrhyw gymorth a chefnogaeth rydym yn ei dderbyn gan ein gwirfoddolwyr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r prosiect newydd a chyffroes hwn yn cynnig cyfle i wirfoddolwyr fod ynghlwm ag amrywiaeth o weithgareddau ac rydym yn annog pobl i ddod i’n ‘Diwrnod Gwirfoddoli’ i ddysgu mwy.”

– DIWEDD –